Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TDETH diweddar yn hanes y byd ydyw datganiadau ffurfiol o iawnderau dyn. Ymddangosodd y datganiad cyntaf yn nhrefedigaeth Virginia yn America yn y flwyddyn 1776. Dilynwyd ef yn fuan wedyn gan ddatganiadau eraill, gan gynnwys yn eu plith y ddau ddatganiad mawr a dylanwadol y bu cymaint sôn amdanynt mewn hanes, sef Y Datganiad o Annibyniaeth a sgrifennwyd ar ran y trefedigaethau Americanaidd gan Thomas Jefferson yn 1776, a'r Datganiad o lawnderau Dyn a fabwysiad- wyd gan Senedd Genedlaethol Ffrainc yn 1789. Bu llawer ymdrech yn ystod y canrifoedd, wrth gwrs, i ennill rhyddid a chyfiawnder i ddynion, a chorfforir egwyddorion amryw fud- iadau llwyddiannus mewn dogfennau enwog fel Magna Carta (1215) a'r Bill of Rights (1689) yn Lloegr ond pethau tra gwa- hanol oedd y rheini i'r datganiadau mawr a ddaeth wedi 1776. Math o gyfraith sylfaenol neu ddeddf gyfansoddiadol ydoedd y naill, eithr datganiad o ffydd a gweledigaeth athronyddol oedd y llall-datganiad o'r gwirioneddau tragwyddol yr oedd yn rhaid eu cydnabod, fe gredid, cyn y medrai dynion sefyd- lu llywodraeth gyfiawn. Rhydd y darn a ganlyn o'r Datganiad o Annibyniaeth enghraifft o'r math hwn o ddatganiad ar ei orau. (Dyfynnaf o'r Saesneg gwreiddiol rhag amharu ar nerth a grymus- ter ei argyhoeddiad, a chynnig bras gyfieithiad ar ei ôl). We hold these truths to be self-evident, that all men are created equal, that they are endowed by their Creator with certain inalienable rights, that among these are life, liberty, and the pursuit of happiness. That to secure these rights, governments are instituted among men, deriving their just powers from the consent of the governed. That whenever any form of government becomes destructive of these ends, it is the right of the people to alter or to abolish it, and to institute new government, laying its foundations on such principles and organising its powers in such form, as to them shall seem most likely to effect their safety and happiness." HAWLIAU DYN GAN W. J. REES