Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sicrhau yn ymarferol, nid yn gymaint am nad amddiffynnir hwy gan y gyfraith, ond yn hytrach am nad oes gan y mwyafrif o ddynion y moddion i'w hymarfer. Fe ddywaid Erthygl 8 o'r Datganiad presennol fod gan bawb hawl i ymwared effeithiol gan y llysoedd cenedlaethol cymwys rhag gweithredoedd a fo'n troseddu'r iawnderau sylfaenol a roddwyd iddo gan y cyfan- soddiad neu gan y gyfraith," neu, mewn geiriau symlach, hawl i fynd i gyfraith i amddiffyn ei iawnderau. Eithr, yn y byd fel y mae heddiw, pa obaith sydd gan neb am ddwyn ei achos gerbron llys barn, a chael ei wrando'n deg, oni fedro dalu costau cyf- reithiwr a llawer o gostau eraill ? Y mae'r un peth yn wir, hefyd, am lywodraeth leol ac am addysg. Fe ddywaid Erthygl 21, Adran 1, fod gan bawb hawl i gymryd rhan yn llywodraeth ei wlad, yn uniongyrchol neu drwy gynrychiolwyr wedi eu dewis yn rhydd." Eithr sut y medr gweithiwr tlawd fod yn aelod o Gyngor Sir, ac yntau'n gorfod colli dydd o waith a thalu treuliau teithio bob yn awr ac yn y man ? Ni raid manylu rhagor. Y mae'n ddigon amlwg na eill dynion ymarfer eu hawliau cyd- nabyddedig heb foddion materol i'w galluogi i wneud hynny. Ni allant eu hymarfer, mewn gair, heb fesur helaeth o gyd- raddoldeb cymdeithasol. Beth, gan hynny, ydyw gwir werth y Datganiad hwn ? Fe gredaf innau nad datgan iawnderau dynion sydd bwysicaf heddiw, er pwysiced hynny, eithr rhoddi i ddynion y cyfleusterau i sicrhau eu hawliau cydnabyddedig yn ymarferol. Fe olyga hynny newid ein cyfreithiau, ac yn anad dim dosbarthu cyfoeth o'r newydd. Os defnyddiwn Ddatganiad y Cenhedloedd Unedig i dynnu sylw dynion oddi ar y ffaith hon, eu diraddio a wnawn, a'u twyllo o'u hawliau, ni waeth pa beth a ddywedom. Eithr os defnyddiwn ef i hyrwyddo'r cyfnewidiadau cyfreithiol a chymdeithasol sy'n angenrheidiol i sicrhau'r hawliau hyn, yna fe gyfiawnheir ein gwaith, a mawr fydd ein bendith. Onid yw'r Datganiad hwn yn arf chwyldro, yna y mae'n arf gorthrwm. Gyda ninnau y mae'r dewis pa un ydyw mewn gwirionedd. (NODIAD Y mae cyfieithiad swyddogol o Ddatganiad y Cenhedloedd Unedig, o waith T. H. Parry-Williams, ar gael ei gyhoeddi. Y mae arnaf ddiolch i'r Athro am ei ganiatâd parod i ddyfynnu o'r cyfieithiad hwnnw yn yr erthygl hon.­W.J.R.)