Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trigo yng Nghymru annwyl Yn swn yr heniaith dlos Cae'r chwarae a'r Eisteddfod A gwyn Sabbathau'r Rhos Gorchwyl, a nerth i'w ddilyn, A'r ddawn i'w wneud yn llwyr, A chi, a llyfr a chyfaill Yn gwmni gyda'r hwyr. Cael gwylio y tymhorau Ar hynt dros faes a ffridd, A theimlo cyffro'r gwanwyn Yn cerdded trwy fy mhridd A'r cyffro arall hwnnw A deimlais ar fy rhawd, Na ŵyr y pridd amdano, Yn datod rhwymau'r cnawd. Ond ofer ydyw disgwyl Y dyddiau pell yn ôl, A thorri mae'r ffiolau Yn nwylo'r prydydd ffôl A'i weddi yw, am gymorth Pan ballo'r melys win, I ddrachtio'r gwaddod chwerw Heb gryndod ar ei fin. Dyfynnais hi yn llawn, yn un peth, oherwydd bod cymaint o Hwsn ei hun ynddi-Hwsn y gwr bonheddig o Gristion, a'i grefydd lawn, lon Hwsn ddiffuant a fyddai yr un un ymhobman — ar gae'r Eisteddfod neu gae pêl droed fel yn ei gapel Hwsn y cwmniwr diddan a fyddai mor driw mewn cyfeillgarwch ac a rannai olud ei ddarllen helaeth gyda ni yn y gyfeillach ar ôl," gwedi'r pwyllgor Hwsn, a'i gariad syml a dwfn at Gymru- ei thegwch bro a'i gwerin a thrysorau ei heniaith Hwsn, y gwyddai ei ffrindiau agosaf mor ddwys oedd y cyffro arall hwnnw yn ei natur, er na fyddai byth yn gwneud ffwdan allanol ohono. Yn wir, yr oedd yn rhy gysegredig a dwys a chyfrin yn ei olwg iddo hyd yn oed mewn telyneg fel hyn wneud rhagor gerbron y byd na'i addef yn gynnil heb fanylu dim. Hwsn,