Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gobeithio fy mod wedi dweud digon i argyhoeddi darllenwyr LLEUFER mai cyfrol yw hon na fedrwch fforddio bod hebddi os hoff gennych farddoniaeth Gymraeg heddiw ar ei gorau. Drach- efn a thrachefn fe gewch chwi a minnau eto ddiddanwch ynddi, a hynny efallai ar ddyddiau du, pan drown ni at Gân neu Ddwy" ohoni, a dianc gyda'r bardd mwyn ar adenydd dychymyg "dros fynyddoedd y perlysiau" i degwch fel tegwch gwlad Llyn. Megis yn y delyneg hyfryd honno Pa bawn i yn artist mi dynnwn lun Rhyfeddod y machlud dros benrhyn Llyn: Uwchmynydd a'i graig yn borffor fin nos A bae Aberdaron yn aur a rhos. Dan Drwyn-y-Penrhyn, a'r wylan a'i chri Yn troelli uwchben, mi eisteddwn i Nosweithiau hirion nes llithio pob lliw 0 Greigiau Gwylan a'r tonnau a'r rhiw. Ac yna rhown lwybyr o berlau drud Dros derfysg y Swnt i Ynys yr Hud Mewn llafn o fachlud ym mhellter y llun Ddirgelwch llwydlas yr Ynys ei hun. Ond 'wêl neb mo Enlli o fin y lli." Pe bawn i yn artist," ddywedais i. Y mae gormod o ganmol heddiw ar foelni ymadrodd.—Alun Llywelyn-Williams, yn Gwyr Llên. Anwybodaeth dybryd y Cymro am lên Lloegr sy'n cyfrif am yr effaith echrydus a gafodd y Saeson ar fywyd Cymru yn ystod y can mlynedd diwaethaf. — W. J. Gruffydd, yn Y Tro Olaf.