Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAGYMADRODD I GYFANSODDIAD UNESCO Cyfieithiad GAN WILLIAM ROWLANDS RHAGYMADRODD I GYFANSODDIAD TREFNIANT ADDYSGOL, GWYDDONOL A DIWYLLIANNOL Y CEN- HEDLOEDD UNEDIG. y MAE Llywodraethau'r Gwladwriaethau sy'n gyfranogion yn y Cyfansoddiad hwn ar ran eu pobloedd yn datgan, gan mai ym meddyliau dynion y mae rhyfeloedd yn cychwyn, ym meddyliau dynion hefyd y mae'n rhaid codi amddiffynfeydd heddwch mai anwybodaeth am ffyrdd a bywydau ei gilydd, drwy gydol hanes dynolryw, a fu achos cyffredin y drwgdybio a'r diffyg- ymddiried hwnnw cydrhwng pobloedd y byd, y mae eu hym- rafaelion o'r herwydd yn rhy fynych o lawer wedi torri allan yn rhyfel mai rhyfel ydoedd y rhyfel mawr ac erchyll sy'n awr ar ben a wnaed yn bosibl trwy wadu egwyddorion democrataidd am urddas, cydraddoldeb a pharch dynion i'w gilydd, a chan ledaenu yn eu lle, trwy anwybodaeth a rhagrith, yr athrawiaeth am anghydraddoldeb dynion a hilion bod lledaeniad eang diwylliant, ac addysgu dynoliaeth er cyfiawnder á rhyddid a heddwch, yn anhepgor i urddas dyn ac yn cynnwys dyletswydd gysegredig y mae'n rhaid i'r holl genhed- loedd ei chyflawni mewn ysbryd cyd-gynorthwyo a chyd-ym- geleddu ei gilydd na fyddai heddwch, wedi ei seilio'n gyfan gwbl ar drefniadau politicaidd ac economaidd llywodraethau, yn heddwch a allai sicrhau cefnogaeth unfrydol, barhaol, a gwirioneddol pobloedd y byd, a bod yn rhaid felly seilio'r heddwch, os nad yw i fethu, ar gadernid deallol a moesol dynolryw. Am y rhesymau hyn, y mae'r gwladwriaethau sy'n gyfranogion yn y Cyfansoddiad hwn, gan eu bod yn credu mewn cyfleusterau addysg llawn a chyfartal i bawb, mewn ymchwil ddi-lestair am y gwir gwrthrychol, ac mewn rhydd-gyfnewid syniadau a gwybod-