Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

aeth, yn cytuno ac yn penderfynu datblygu ac ychwanegu modd- ion cyfathrach cydrhwng eu pobloedd, a defnyddio'r moddion hyn er mwyn cyd-ddealltwriaeth a gwybodaeth berffeithiach a mwy gwirioneddol am fywydau ei gilydd Gan hynny, y maent drwy hyn yn creu Trefniant Addysgol Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig, er mwyn hyrwyddo, drwy gysylltiadau pobloedd y byd mewn addysg gwyddoniaeth a diwylliant, amcanion heddwch cyd-genedlaethol a lles cyffredinol dynolryw, y sefydlwyd erddo Drefniant y Cen- hedloedd Unedig ac y mae ei Siarter yn ei gyhoeddi. (Yr oedd y cyfieithiad hwn yn fuddugol yn Eisteddfod Gened- laethol Dolgellau eleni. Cyhoeddir ef ar awgrym y Parch. Gwilym Davies, a thrwy ganiatâd caredig y cyfieithydd a Chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol). Gall dywedyd mai rhyddid crefydd ydyw craidd democrat- iaeth ymddangos yn ormodiaith. Onid yw hyn yn rhoddi lIe rhy uchel i grefydd mewn llunio gwleidyddiaeth ? Nac ydyw a hynny am ddau reswm. Y rheswm cyntaf ydyw bod egwyddor rhyddid crefydd yn sefydlu'r egwyddor fod terfynau i awdurdod gwleidyddiaeth. Os nad oes gan y Llywodraeth hawl i ymyrryd yng nghrefydd ei deiliaid, yna y mae un adran o fywyd cym- deithas lle y mae'r awdurdod gwleidyddol yn ddiallu. Golyga democratiaeth, fel y deallwn ni y gair yn y wlad hon, wadu holl- awdurdod y wladwriaeth. Y mae'r ail reswm yn cyfleu mewn egwyddor fod pob gwaith diwylliadol yn rhydd oddi wrth reol y wladwriaeth, neu, mewn gair, y cwblaolygir wrth ryddid y meddwl -fod dyn yn fwy na dinesydd Gellir gwahaniaethu'r bywyd ysbrydol a'r bywyd materol, ond ni ellir eu gwahanu. Bywyd economaidd cymdeithas ydyw sylfaen anhepgorol ei bywyd meddyliol. Os gwrthodir i lywod- raeth ddemocrataidd yr hawl i reoli a chyfeirio bywyd economaidd cymdeithas, yna ni bydd gan gymdeithas yr un ffordd i ddiogelu i bawb o'i haelodau foddion cynhaliaeth eu rhyddid meddwl, y rhyddid hwnnw y cais democratiaeth ei wneud yn bosibl.- — John Macmurray (talfyrrwyd).