Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWM EITHIN GAN D. TECWYN LLOYD The Gorse Glen, gan E. Morgan Humphreys. Cyfieithiad o Cwm Eithin (Hugh Evans). Gwasg y Brython. 8/6. AETH blynyddoedd lawer heibio er pan gyhoeddwyd Cwm Eithin gyntaf un o'r llyfrau difyrraf, ond odid, a gyhoedd- wyd erioed yn Gymraeg. Gallwn dybio i lawer ei ddarllen, ac yng nghylch ardaloedd Uwch ac Is Aled, Penllyn ac Edeyrnion, credaf fod bron bawb yn gwybod amdano, o leiaf. Y peth rhyfedd yw na chafwyd cyfrolau eraill yn ymdrin â rhannau eraill o Gymru yr un ffordd disgwyliem ddilynwyr a dynwaredwyr, ond am ryw reswm neu'i gilydd, nis cafwyd. Ac yn awr, wele gyfieithiad Saesneg ohono. Credaf y byddai'n fwy diddorol gweld barn adolygydd o Sais arno na'm barn i, canys wedi'r cwbl y mae Cwm Eithin yn hen stori i ni yng Nghymru erbyn hyn. Ond byddai'n ddiddorol cael barn rhywrai fel y Quennells neu G. M. Trevelyan, dyweder, canys er eu bod hwythau'n haneswyr yn yr un maes, y mae yna wahaniaeth pwysig rhwng The Gorse Glen a The History of Everyday Things in England. Ymdriniaeth yw'r gweithiau gwerthfawr hyn ag arferion a chrefftau a sefydliadau cymdeithasol y Lloegrwys fel y cyfryw, ond fe geisiodd Huw Evans roi cip inni ar y bobl- y cymeriadau "-a arferai'r crefftau hynny. Gofalodd am roi stori ddoniol yma a thraw yn ei benodau, nid yn gymaint i ysgafn- hau'r ymdriniaeth, ond i roi rhyw chwa o awyrgylch y cyfnod inni, ac i ddod â ni i agosach cysylltiad â'n hynafiaid. Canys 'doedd dim byd yn ddiddorol iawn nac yn lliwgar, yn llawen nac yn drist, nac yn bwysig iawn, mewn disgrifio caban unnos neu restr o fwydydd cyfnod y caledi mawr yn y ganrif o'r blaen dim, meddaf, ynddo ei hun. Ond stori arall yw gwybod a gweled a theimlo'r pethau hyn fel pethau a oedd yn brofiadau byw i'n cyndeidiau. Hyn yw pennaf camp a gwerth Cwm Eithin. Ceir digon o lyfrau ac adroddiadau yn disgrifio'r un cyfnod yn union, ond nid trafod dynion a merched y maent, ond trafod ffigyrau a sefydliadau a chyfartaleddau-fel petai mai'r pethau hynny sy'n bwysig. Ond fe wyr pawb nad oes gan sefydliad a ffigiwr unrhyw ystyr na bodolaeth nddb'i hun­o leiaf, gobeithio