Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fe wyddai'r dewin, meddai ef, bopeth am yr helynt cyn i'r hen lanc ei ddweud wrtho. Aeth yntau'n ôl i Gwmpenanner, ac ymhen tair wythnos, agorwyd y drôr. 'Roeddyllwyauynobobun Straeon am baffio mawr a bwlïod wedyn, balchder mewn nerth braich ac asgwrn, a champau corfforol sy'n ymddangos i ni, gorachod y blynyddoedd hyn, yn gwbl anhygoel. Hyn, ynghyda rhyw ethos syml, plaen, sydd yn peri i ni-eu hwyrion a'u disgynyddion-genfigennu wrth eu rhyddid a'u pendantrwydd ymadrodd canys dyddiau misi a phetrus sydd ohoni yn awr. Ynglŷn â'r cyfieithiad. Y mae E.M.H. yn ormod meistr ar ei waith i mi allu pigo brychau ynddo ambell dro, hwyrach, gallasai drosi'r frawddeg Gymraeg i idiom, yn hytrach nag i eiriau Saesneg cyfystyr, a thrwy hynny osgoi'r artiffiseiddiwch a geir mor aml gan yr Eingl-Gymry." A dyna un peth y gob- eithiaf na ddigwydd, sef i The Gorse Glen fynd yn rhyw fath o chwarel i'r rheini sy'n tybio mai peasantry llenyddiaethol ydyw gwerin Cwm Eithin. Aeth yr adolygiad hwn yn.rhywbeth gwahanol ers meitin. Wel, boed felly. Amcan yr holl waith a wnaeth Huw Evans ydoedd diogelu darlun o gyfnod a fu, ac a fu galed a garw, ond a fu hefyd yn fagwrfa dynion cedyrn a diofn, yn ogystal â dynion eraíll-hí1 Mwrog a'i debyg. Gallwn sôn llawer am yr ardaloedd hyn, canys hwynt-hwy yw Cymru i mi, ac ynghanol cosmopolitan- iaeth ddigon amrwd y mae chwa o hanes a theithi Cwm Eithin yn awel falmaidd yn wir. Ond am y tro, rhaid ymatal, nid yn unig rhag treisio gofod y golygydd, ond hefyd rhag trethu ei hir amynedd grasol, amynedd a roes raff o rai misoedd i mi eisoes cyn ysgrifennu hyn. Croeso i rifyn cyntaf Y Crynhoad (Gwasg y Brython, 1 /6 bob deufis). Cylchgrawn ar batrwm y Digests Saesneg ydyw hwn, o dan olygiaeth Iorwerth Jones, yn ceisio crynhoi rhai o'r pethau da a geir mewn cylchgronau a llyfrau Cymraeg. Rhifyn diddorol dros ben, ac wedi ei olygu'n ddeallus, a'i argraffu'n ddestlus. Croeso hefyd i Forecast a'r Dyfodol (3d.), papur wythnosol annibynnol myfyrwyr Coleg y Gogledd. Hwn yw'r rhifyn cyntaf mewn argraff-copïau roneo oedd y rhifynnau o'r blaen. Papur bach byw iawn, yn Gymraeg a Saesneg.