Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TEITHIO HEB DOCYN (sef El Parásito del Tren, gan Vicente Blasco Ibánez, 1867-1928 wedi ei throsi o'r Sbaeneg). GAN J. T. JONES Q.WRANDEWCH," meddai Perez wrth ei gymdeithion yn y bwyty; 'rwyf newydd ddarllen yn y papur hwn am farw cyfaill imi. Er na welais ef ond unwaith, bûm yn meddwl amdano lawer gwaith ar ôl hynny. Cyfaill i'w gofio ydoedd Deuthum i'w nabod wrth drafaelio un noson yn y trên cyflym o Valencia. Mewn cerbyd y dosbarth cyntaf yr oeddwn. Yn Albacete disgynnodd yr unig deithiwr a oedd yn yr un cerbyd â mi ac wedi cael y lIe i mi fy hun, teimlwn ryw hyfrydwch moethus wrth syllu ar glustogau'r sedd-canys ni chysgaswn fawr y noson gynt. Cerbyd i mi fy hun Cawn ymestyn fel y mynnwn ar y clustogau, a chysgu'n braf yr holl ffordd i Alcazar Tynnais y gorchudd gwyrdd dros y lamp, nes creu rhyw hanner-tywyllwch tra chysurus. Lapiais yr hugan amdanaf, gorwedd ar wastad fy nghefn, ac estyn fy nhraed i'w llawn hyd- gan deimlo'n ddiolchgar y medrwn wneud hynny heb anhwyluso neb. Rhedai'r trên dros wastadeddau La Mancha, trwy diroedd cras ac anial. Symudai'r peiriant ar ei gyflymaf. Siglai a gridd- fannai'r cerbyd fel hen wagen fregus siglwn innau ar wastad fy nghefn i ganlyn ysgytiadau'r trên. 'Roedd godreon y clus- togau'n chwyrlio neidiai'r bagiau a'r celfi ar y rhestl uwchben crynai gwydrau'r ffenestri yn eu fframiau yr oedd swn rhygnu sgrechlyd hen haearn i'w glywed oddi tanodd a rhuai'r olwynion a'r brêciau yn ddi-baid. Ond pan gaeais fy llygaid, newidiodd effeithiau'r sŵn, a theimlwn i ddechrau fel pe'm siglid ar donnau'r môr-ac yna dychmygwn fyned yn ôl i ddyddiau plentyndod, a chlywed mamaeth greg yn ceisio fy suo i gysgu. A mi yn meddwl pethau ynfyd o'r fath, dechreuais gysgu ond parhâi yr un hen dwrw, a daliai'r trên i symud ymlaen heb stop.