Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'i fwrw allan o'r trên. Y noson honno, yn wir, tybiai fod ei einioes ar ben. Ac wrth ddywedyd hyn, dangosai imi'r graith fawr a oedd ar ei dalcen. Triniaeth chwerw a gawsai gan y teithwyr, ond ni chwynai o'r herwydd. Naturiol oedd i'r boneddigion hynny gael braw, a cheisio eu hamddiffyn eu hunain. Gwyddai ei fod yn haeddu'r gamdriniaeth i gyd ond­ beth a wnâi, ac yntau heb ddim arian, ac eto'n chwennych gweld ei rai bach ? Arafodd y trên ychydig, fel pe bai stesion gerllaw. Cyffrôdd yntau, ac eistedd i fyny. Arhoswch lle'r ydych," meddwn wrtho y mae eto un stesion arall cyn cyrraedd eich pentref chwi. Mi dalaf am docyn ichwi." Dim o'r fath beth, syr atebai yn gyfrwys-ddiniwed. Byddai'r casglwr ticedi, wrth dderbyn fy nhocyn, yn siwr o hoelio'i lygaid arnaf. Mae gwýr y rheilffordd wedi f'erlid lawer gwaith, heb lwyddo i gael golwg eglur arnaf ac ni charwn iddynt fy adnabod. Siwrnai dda ichwi, syr Chwi yw'r dyn caredicaf a welais ar y daith hon." Llithrodd ymaith ar hyd yr astell droed, gan gydio yng nghanllaw'r trên, a diflannu yn y tywyllwch. Chwilio yr oedd, ond odid, am loches arall, i gael gorffen y siwrnai mewn heddwch. Safodd y trên mewn stesion fach dawel. Yr oeddwn ar fedr gorwedd i lawr i gysgu, pan glywais swn lleisiau cynhyrfus ac awdurdodol ar y platfform. Gwyr y rheilffordd, swyddogion y stesion, a dau heddgeidwad oedd yno, yn rhuthro yma a thraw fel pe baent yn ceisio amgylchu rhyw ffoadur. Y ffordd hon Achubwch y blaen arno Aed dau ohonoch i'r ochr draw rhag iddo ddianc Dacw fo yn dringo i'r to Daliwch o Ac yn wir, ymhen ychydig eiliadau 'roedd fy ngherbyd yn crynu oherwydd carlam wyllt nifer o ddynion a oedd yn erlid rhywun ar hyd to'r trên. Heb os nac oni bai, ein cyfaill-y dieithryn-a erlidid. Pan welsai ei amgylchu, dringasai i'r to am noddfa. 'Roeddwn innau'n sefyll yn y ffenestr gyferbyn â'r rhan honno o'r platfform, a gwelwn y ffoadur, â'r egni rhyfedd hwnnw a ddaw i ddyn pan fo mewn cyfyngder, yn llamu o ben un o'r cerbydau agosaf ac yn syrthio ar ei wyneb i'r cae gerllaw. Ymlusgodd ar ei bedwar am foment neu ddwy, fel petai'n methu â chodi ar ôl y codwm, ac yna rhedodd ymaith fel milgi. Am beth