Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYFU BWYD I'R BYD Gan R. HUWS JONES "y MAE llawer o sgrifenwyr yn ddiweddar wedi ceisio ein brawychu drwy fygwth newyn drwy'r byd. Ymha ystyr y mae yna argyfwng bwyd, a sut y mae'n effeithio arnom ni ym Mhrydain ? Y mae'n wir fod llaweroedd o bobl nad ydynt yn bwyta cymaint o'u hoff fwydydd ag a garent. Ond pan fydd ein cymdogion yn Ewrop yn darllen yr ystadegau syml yn adrodd- iadau Cymdeithas Fwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig (Food and Agricultural Organisation), dywedant mai nonsens ydyw i ni sôn am ein bywyd caled, oherwydd ni ydyw'r bobl a fwydir orau yn Ewrop eto-megis y buom ers amser maith. Y mae'n sicr fod ein bwyd yn cael ei rannu'n decach ym Mhrydain heddiw nag yr oedd cyn y rhyfel. Dangosodd Arolygau a wnaed yn y dyddiau hynny fod llaw tlodi'n pwyso'n drymach ar ein plant nag ar un dosbarth arall o'r bobl, ac o achos hynny diodd- efai mwy nag 20 y cant ohonynt mewn nerth corff, iechyd a bywiogrwydd. Un plentyn yn unig o bob mil a fu farw rhwng pump a deg oed yn 1946, o'i gymharu â thros ddau ymhob mil yn 1936, ac o gymryd unrhyw adran o'r 999 a fu byw, yr oeddynt yn dalach ac yn drymach ac yn iachach na'r adran gyfatebol cyn y rhyfel. Nid gwell bwyd oedd yr unig reswm am hyn, ond y mae'n sicr ei fod yn un o'r prif resymau. Dywaid rhai pobl a gyfrifir yn awdurdodau fod perygl difrifol na ellir llenwi basgedau siopa Prydain yn y dyfodol. Dywedant wrthym, heb sôn am yr anhawster a gawn heddiw i dalu am y nwyddau a brynwn o wledydd tramor, y bydd llai o fwyd ar werth ym marchnadoedd y byd maes o law llai yn cael ei gyn- hyrchu o achos dinoethi'r tir a difetha adnoddau natur llai o fwyd yn sbâr gan y gwledydd sydd yn ei gynhyrchu, am fod arnynt eisiau mwy eu hunain i gyfarfod â'r cynnydd yn y boblog- aeth a gwell safon byw a thrwy'r holl fyd bydd pob blwyddyn yn dwyn 21 miliwn yn chwaneg o gegau i fod-a phob un yn galw am fwy o fwyd. Tros y byd i gyd y mae pobl nad ydynt yn cael digon o fwyd i'w cadwyngryfac yn iach, neu hyd yn oed i'w cadw'n fyw. Darllen- wn am un wlad heddiw lIe y mae hanner y boblogaeth yn marw cyn bod yn ddeg oed, a chyfartaledd uchel o'r rheini yn marw o