Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

newyn neu o'r clefydau a achosir gan brinder bwyd. Yr oedd y safle ychydig yn waeth yn 1948 na chyn y rhyfel, gan fod hafog rhyfel wedi peri cynhyrchu llai o fwyd, a phoblogaeth y byd wedi tyfu, ac felly yr oedd ar gyfartaledd 12 y cant yn llai o fwyd ar gyfer pob person nag a oedd yn 1938. Nid ydyw newyn yn ddim byd newydd yr hyn sydd yn newydd ydyw'r cynnydd yn yr ymwybodaeth gydwladol ohono, a'r sylw a roddir iddo, a sefydlu cymdeithas gydwladol i astudio'r pwnc, i oleuo meddyliau'r bobl a chynghori'r llywodraethau pa beth i'w wneud. Y mae dwy elfen yn y sefyllfa. Pwnc dyrys cynyddu cyflenwad bwyd ydyw un, ac arafu'r cynnydd ym mhoblogaeth y byd ydyw'r llall. A chymryd yr holl fyd i ystyriaeth, bydd pob munud yn dyfod â 40 yn chwaneg o gegau i'r byd i'w bwydo, bron drigain mil y dydd. Cynyddodd poblogaeth India, er enghraifft, ryw 50 miliwn rhwng 1931 a 1941, ac y mae'n dal i gynyddu â'r un cyflymder. Y mae yn Asia broblem epilio-problem na ddatrysir mohoni drwy chwyddo'r cyflenwad bwyd, oherwydd y mae dyfr- hau'r tir ac amaethyddiaeth wyddorus wedi chwyddo'r cyflenwad bwyd yn ddirfawr mewn rhai parthau ohoni eisoes, ac eto bydd mwy a mwy o gegau'n dyfod o hyd i lyncu'r cyfan a dyfir. Un ai rhaid gostwng cyfartaledd y genedigaethau (drwy briodi'n ddi- weddarach neu drwy reoli genedigaethau mewn rhyw ffordd arall), neu bydd prinder bwyd yn parhau a newyn yn torri allan bob hyn-a-hyn Dangosodd Aldous Huxley, yn ei bamffled, Food and the People, gan y Bureau of Current Affairs, y bydd yn anodd argyhoeddi llywodraethau fod arnynt angen am bolisi i reoli'r cynnydd yn y boblogaeth, a bydd yn anos fyth cael y bobl i dderbyn polisi felly, a gweithredu arni. Fe effeithiai ar agweddau mwyaf preifat bywyd pobl, ac fe gyffroai deimladau a rhagfarnau mewn llawer hen sefydliad, o'r Eglwysi yn un pen i awdurdodau'r Lluoedd Arfog yn y pen arall. Ond y mae hanes llawer gwlad yn dangos bod pobl yn cyfyngu ar faint eu teuluoedd pan ddechreuont syl- weddoli mai dyna'r ffordd i godi eu safonau byw a diogelu'r codiad wedi ei gael. Pa un bynnag, cyn belled ag y gallwn ni weld heddiw, un peth hanfodol i lunio polisi ynglyn â bwyd tros dymor maith ydyw arafu'r cynnydd ym mhoblogaeth y byd. Ond ni all hynny helpu llawer arnom yn fuan, achos y mae'r cynnydd ym mhoblogaeth y byd wedi codi spid (oherwydd y cyfartaledd uchel o feibion a merched sydd mewn oedran cenhedlu), ac felly