Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BAIRD A THELEFISION GAN ARIAL MYFYR THOMAS H YD yn hyn, nid yw Telefision wedi ein cyrraedd ni yng Nghymru yn gyffredinol, ond gallwn obeithio ei gael yn weddol fuan. Felly, peth da fyddai gwybod cyn iddo ddyfod ychydig am ei ddarganfod a'i ddatblygu. Yn gysylltiedig â thelefision y mae enw John Logie Baird, nid yn unig am mai ef a wnaeth y darganfyddiad, ond hefyd am mai ef biau'r clod am ei ddatblygu a'i wella nes bod yn bosibl ei ddefnyddio er budd a phleser y dyn cyffredin. Ganed John Logie Baird yn Helensburgh, Sgotland, ar Awst 13, 1888, yr ieuengaf o bedwar o blant, ac yn fab i weinidog. Cafodd ei addysg gynnar yn Academi Larchfield, ond ni ddangos- odd unrhyw ddawn arbennig yn blentyn. Yn ei oriau hamdden, fodd bynnag, byddai'n brysur iawn yn gwneud arbrofion â thrydan, ac yma gwelwn ddechrau ei ddiddordeb mewn gwyddor. Aeth i'r Coleg Technegol yn Glasgow yn ddwy ar bymtheg, ac oddi yno i'r Brifysgol. Oherwydd y rhyfel bu raid iddo ymadael heb gymryd ei radd, ac er iddo wneud gwaith da yno ni ddangos- odd athrylith yn y lle hwn chwaith. Tra bu yn y coleg ac yn y brifysgol, cymerodd ddiddordeb mewn telefision, ond ni ddaeth llwyddiant i ddilyn ei ymchwiliadau. Yn ystod rhyfel 1914-18, cafodd Baird waith gyda Chwmni Cynhyrchu Trydan Dyffryn Clud, ac o hyn ymlaen cawn glywed am ei frwydr fawr yn erbyn afiechyd. Dro ar ôl tro, bu raid iddo roi'r gorau i'w waith er mwyn arbed ei nerth. Yn fuan wedi diwedd y rhyfel, gadawodd y gwaith trydan oherwydd afiechyd, ac aeth i Glasgow i werthu hosanau, a pholis esgidiau o'i ddyfais ei hun. Enillodd arian yn gyflym ond torrodd ei iechyd unwaith eto, ac aeth i Trinidad, yn Ne America, gan obeithio cael gwellhad. Bu'n cadw ffatri jam yno am tua blwy- ddyn cyn mynd yn wael drachefn. Dychwelodd i Loegr, a bu am flwyddyn neu ddwy yn symud o un busnes i'r llall, yn ennill arian o hyd, ond yn 1922 bu raid iddo roi'r gorau i fyd busnes am byth. Pallodd ei iechyd yn llwyr, ac ar gyngor ei feddyg aeth i Hastings i wella.