Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cliriach, yn dangos mwy o fanylion ar y sgrin. Cyn y datblygiad hwn, defnyddid 30 o stripiau, ond yn fuan wedyn defnyddiwyd 90, ac yna 120, 180, ac o'r diwedd 240. Gwnaeth hyn y llun yn llawer mwy eglur, a daeth telefision yn llawer mwy poblogaidd. Erbyn 1934 yr oedd dwy gyfundrefn o delefision ar y maes- un Cwmni Baird, yn defnyddio 240 o stripiau ac yn dangos 25 llun bob eiliad, ac un arall wedi ei ddyfeisio gan Gwmni Marconi- E.M.I. (seiliedig ar ddyfeisiadau cynharaf Baird), yn defnyddio 405 o stripiau, ac yn dangos yr un nifer o luniau, ond yn gwneud hyn trwy anfon stripiau 1, 3, 5, 7 yn gyntaf, ac yna mynd yn ôl ac anfon stripiau 2, 4, 6, 8 i gwpláu'r llun. Yn Awst 1935, gwahoddwyd y ddwy gyfundrefn gan y BBC i fynd ar eu praw, ac ymhen blwyddyn yr oedd peiriannau'r ddau gwmni yn barod i ddarlledu. Agorwyd Alexandra Palace ar Tachwedd 2 i fod yn brif orsaf Telefision, ac o'r diwrnod hwnnw hyd Chwefror 1937 bu'r ddau gwmni'n darlledu bob yn ail wythnos. Ar ddiwedd y praw, dewisodd y BBC gyfundrefn Marconi-E.M.I. yn hytrach nag un Baird, ond aeth ef ymlaen â'i ymchwiliadau i wella safonau telefision. Yn 1941, dangosodd luniau lliw yn cynnwys 600 strip, a lluniau lliw stereosgopig yn cynnwys 500 strip. Daeth ei yrfa ramantus i ben Mehefin 14, 1946, ond aeth hanes cynnydd telefision yn ei flaen. Yn wir, petasai hon yn ysgrif ar delefision, buasai raid imi sôn am nifer o welliannau a wnaed gan ddynion eraill, ac yn arbennig am ddefhyddio'r Cathode Ray Tube i bwrpas telefision. Ond hanes Baird a'i waith sydd gennyf yn yr ysgrif hon efallai y caf sôn rywdro eto am ddatblygiadau diweddaraf Telefision. Rhai blynyddoedd yn ôl, safodd athro gerbron Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon i gynnig am swydd prifathro. Holodd rhyw Gymro ar y Pwyllgor ef a oedd yn selog dros ddysgu'r Gymraeg yn yr ysgol, ac atebodd yntau ei fod. Ar hyn, gofyn- nodd aelod o Sais iddo yn goeglyd Be ydi millimetre yn Gymraeg ? Cyn iddo gael amser i ateb, dyma Gymro arall yn gofyn i'r Sais Be ydi-o yn Saesneg ?