Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGOL HAF YN YR ALMAEN GAN C. R. WILLIAMS R HYW ddeugain milltir o Hamburg, ar ffin coedwig sydd yn ymestyn tuag Afon Elbe, saif nifer o adeiladau a fu unwaith yn rhannau o blasty hela a berthynai i deulu brenhinol Prwsia, yr Hohenzollerns. Nid oes angen llawer o ddychymyg i godi darlun yn y meddwl o'r miri a'r gwledda a fu yn y lle hwn yn y dyddiau gynt, pan fyddai'r Caiser a mân frenhinoedd a thywysog- ion yn cydgyfarfod yma am ryw wythnos neu ddwy yn y flwy- ddyn, i hela'r baedd gwyllt a'r hydd. Ond cyfarfodydd tra gwahanol a geir yn yr Jagdschloss, Göhrde-fel y gelwir y lle­ yn y dyddiau hyn, oblegid Coleg Addysg Pobl mewn Oed yw'r hen blasty erbyn heddiw. Heimvolkshochschule neu Ysgol Werin Breswyl Uwchradd." Nid rhwysg a gwychder ymerodrol a geir yma bellach, ond ansicrwydd gwerin yn ceisio gwell ffordd i fyw. Yn ystod mis Mehefin eleni fe drefnodd y WEA Ysgol Haf yn yr Jagdschloss, Göhrde, er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr y WEA ym Mhrydain gydgyfarfod â myfyrwyr ac athrawon dosbarth- iadau cyffelyb yn yr Almaen. Daeth rhyw bedwar ar hugain ohonom o Brydain yno i gyfathrachu â rhyw nifer tebyg o Al- maenwyr. Clywais gwyn mai ychydig o Gymry sydd yn ceisio am Ie yn yr Ysgolion Haf hyn ar y Cyfandir, ac y mae'n wir mai Saeson oedd mwyafrif mawr y myfyrwyr a ddaeth o Brydain i Göhrde. Os gwir mai ychydig o Gymry sydd yn anfon ceisiadau am yr Ysgolion Haf hyn, gobeithiaf y bydd rhagor o geisiadau o ddosbarthiadau'r WEA yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Ond os gwan oedd cynrychiolaeth Cymru ymysg y myfyrwyr, yr oedd yn gryf ymhlith yr athrawon. David E. Evans, o Goleg Caer- dydd, oedd yr arweinydd, gyda Mr. Fisher, trefnydd y WEA yn Sir Efrog. Yno hefyd yr oedd F. Samson o Bont-y-pwl, C. P. Griffith o Brifysgol Caergrawnt, brodor o Abertawe, a minnau o Goleg Abertawe i roi hwb iddynt yn awr ac yn y man. Mr. Men- delson o Brifysgol Rhydychen oedd yr athro arall o Brydain. Bu bron inni achosi rhyfel cartref yno ymhlith y Prydeinwyr, oblegid ein tuedd ni y Cymry, yn hollol ddifwriad, wrth sôn am