Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'u hanawsterau yn fawr, a chredaf ei bod yn ddyletswydd arnom ni yn y WEA wneud popeth a allom i'w cynorthwyo a'u cefnogi. Os na wnawn hyn, bydd perygl iddynt ddigalonni. Cofiwch," medd un ohonynt wrthyf, ynghanol adfeilion Hanover, yr oeddem ni yn gweddïo am i'r Almaen gael ei gorchfygu yn y rhyfel, ac nid peth hawdd oedd gweddïo am ddarostyngiad eich gwlad eich hun, ond gweddïem am hynny er mwyn cael cyfle i ail-adeiladu yn well. 'Rwy'n gobeithio na wnewch mo'n gollwng i lawr yn awr." Am y mwyafrif o'r Almaenwyr, nid yw'n hawdd dweud beth yw eu teimladau. Ymddangosai pawb yn hynod o gyfeillgar a charedig tuag atom, ond yn aml iawn ceid awyrgylch o ddi- faterwch tuag at bethau addysgol a pholiticaidd ymhlith y bobl gyffredin, ac awyrgylch o bryder am y dyfodol-ofn y diweithdra sy'n cynyddu yn raddol, er bod cyflwr economaidd yr Almaen yn ymddangos yn well nag y bu ac yn amlwg iawn ofn y Rwsiaid sydd â'i byddinoedd tu draw i Afon Elbe. CYNEFIN GAN DERWYN JONES Ffarwelio â'r pentref a'r preplyd rai Heintus fusneslyd ar drothwy'r tai. Cael sgwrs â gweithiwr ar fin y ffordd Sy'n rhoi mwy na cherrig o dan ei ordd. Pasio ty'r Felin agored ei ddrws, Ac ystrydebu ei fod yn dlws. Rhoi clust yng Ngraeanllyn i frain dau blwy, A'u holl ddiefligrwydd cyntefig hwy. Loetran wrth Lwytcoed cyn pwyso 'mlaen Drwy'r distawrwydd gwyrdd i Fryn-y-Maen. Brysio i Ddeunant i gyfri'r doll Lle'r erys darn o'm plentyndod coll.