Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHANBARTH Y GOGLEDD GAN C. E. THOMAS yCHYDIG amser yn ôl, derbyniais lythyr oddi wrth yr hen Jôs yn datgan ei ofid oherwydd ei esgeulustod o'i aelodaeth yn y gangen. Amgaeodd ddialog ddiddorol i mi, a dywedodd y gallwn wneud y defnydd a fynnwn ohoni. Y peth gorau i'w wneuthur ydyw ei chyhoeddi fel y cefais hi. Yn sicr, y mae'r hen Jôs wedi rhoi ei fys ar ein gwendid pennaf. Mwynhawn y dosbarthiadau, ond anghofiwn roddi ein hysgwydd o dan yr arch. Dyma'r ddialog fel y cefais hi Wel, 'rhen Jôs, rydech-chi'n edrych yn bur foddhaol â chi'ch hun." Wel, ydw, faohgan, wnes i rwbath heddiw na ddaru mi rioed ei wneud o'r blaen. Wyddosti ? mae arna i gwilydd braidd ohonof fy hun na faswn i wedi meddwl amdano o'r blaen. Wrth gwrs, roedd y boi bach 'na wedi bod yn dweud wrtha ni o hyd, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ond diaisti, fachgan, doeddwn i, na llawer un arall, ddim yn meddwl. Dyna'n drwg ni, wsti, dydan ni ddim yn meddwl ddim pellach na'n trwyna." Wel, ia, 'rhen Jôs, ond dwn i ddim ar wynab y ddaear am be 'dach chi'n siarad. Faswn i ddim yn credu neb fasa'n deud nad ydach chi ddim yn meddwl. Mi rydach yn mynd yn gyson i ddosbarth y WEA, ac yn un o'r rhai gora yno, myn diani, am drafod y pwnc." Ia, ia, machgan i, dyna own i'n mynd i ddeud. Dilyn y dosbarth WEA a'r Tiwtorial 'na dair blynedd yn ôl, ac yn meddwl dim, na chditha chwaith." Meddwl dim ? Be dachi'n feddwl, ddyn ? Mae'r athro wedi deud droeon fod ein dosbarth WEA ni yn un o'r rhai gora fuo ganddo." Ydi, siwr, mae o'n ddosbarth da, gyn belled â mae dosbarth yn y cwestiwn, ond lot o rai go wael ydan ni am dalu'n ôl i'r WEA am roi dosbarth inni bob blwyddyn." Ond rhoswch chi, mae'n dosbarth ni wedi anfon punt neu ddwy o gyfraniad i'r WEA bob blwyddyn, ag fe naethom gonsart un tro." Do, do, ond nid dyna own i'n feddwl. Meddwl rown i mod