Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHANBARTH Y DE GAN D. T. GUY "YfN ôl traddodiad, dechrau blwyddyn newydd y calendr ydyw'r amser priodol i wneud penderfyniadau newydd. A gaf i awgrymu i aelodau'r Canghennau, ac i fyfyrwyr y Dosbarthiadau, i'r athrawon ac i'n cyfeillion oll, ein bod yn penderfynu YN AWR, ar ddechrau tymor y gaeaf, gwneud popeth a fo yn ein gallu i gryfhau dylanwad a hyrwyddo gwaith Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru y flwyddyn hon ? Ar hyd y blynyddoedd, gallwn hawlio yn deg inni lwyddo yn ein gwaith o ddarparu Dosbarthiadau yn yr ardaloedd diwyd- iannol a'r ardaloedd gwledig fel ei gilydd, yn y trefi ac yn y pen- trefi, ond y mae'r ddau Ranbarth, Gogledd a De, wedi methu yn eu hymdrechion i adeiladu aelodaeth gref yn y Canghennau. Nid rhaid inni wneud dim ond astudio Adroddiad Blynyddol ein Cymdeithas, neu Adroddiadau rhai o'r Rhanbarthau eraill, i weld pa mor druenus ydyw methiant ein hymdrechion hyd yn hyn. Yn llythrennol, y mae miloedd o fyfyrwyr yn ein Dos- barthiadau-y rhai Tiwtorial, y rhai Blwyddyn, a'r rhai Ter- minal-ac eto nid yw cyfanswm aelodaeth ein Canghennau yn cyrraedd fawr uwch nag un fil. Beth ydyw'r rheswm am hyn, tybed ? Y mae'n ymddangos fod yma awgrym o leiaf fod rhywbeth yn ddifrifol o'i le yn rhywle, a bod yn rhaid i'r ddau Ranbarth roddi sylw neilltuol i'r mater. Heblaw'r myfyrwyr yn ein dosbarthiadau, fe ddylem wneud ein gorau i ennill pawb sydd â diddordeb mewn addysg i gefnogi'r WEA, a dyfod yn aelodau ynddi. Faint o aelodau'r Pwyllgorau Addysg yn y gwahanol siroedd sydd yn aelodau o'r WEA ? Faint o oruchwylwyr lleol yr ysgolion ? Faint o arolygwyr neu athrawon yr Ysgol Sul, neu swyddogion neu aelodau Cymdeithasau Llen- yddol, a phob math o gymdeithasau eraill ? A gaf i awgrymu ein bod yn rhoddi sylw arbennig i'r gwaith o geisio ennill diddor- deb y bobl hyn yn y WEA ? Sylwaf fod gan Gangen Belfast ei hun agos gymaint o aelodau â'r holl ganghennau yn Neheudir Cymru gyda'i gilydd. A bod yn reit onest, y mae'n hen bryd inni wynebu'r broblem hon, a chael trafodaethau arni, nid yn unig yn y Canghennau