Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Stryd y Glep, gan Kate Roberts. 3/ Y Bryniau Pell, gan Jane Ann Jones. 4/ Gwasg Gee y ddau. Mae yna fwyd sy'n angenrheidiol a bwyd sy'n amheuthun. Nid yw bywyd yn werth ei fyw heb yr amheuthun. Y mymryn bach dros ben, y geiniog y gellwch ei lluchio heb edrych yn ei llygad, sy'n rhoi sglein arno. Nid yw dweud hynna'n tynnu dim oddi wrth werth cynhaliol yr angenrheidiol. Mae hyn i gyd yn wir am lenyddiaeth hefyd. Beth yn y diwedd yw llenyddiaeth ond bywyd ? YBryniau Pell yw ffon bara llenyddiaeth Stryd y Glep yw ei enllyn. Mae'n rhaid cael y naill i gadw llenyddiaeth Gymraeg yn fyw heddiw. Ef yw ei fara beunyddiol. Mae'n rhaid cael y llall i sicrhau ei fod yn fyw yfory hefyd. Ef yw ei bluen yn ei het. Nid beirniadaeth fydd yr adolygiad yma, ond yn hytrach ychydig o argraffiadau. Am ryw reswm neu'i gilydd mae staen ar y gair ffotograffig pan ddefnyddir ef i ddisgrifio llenor. Yr awgrym yw nad yw'r llenor hwnnw'n medru defhyddio'i ddychymyg i wneud ei ddarlun o fywyd yn ychydig amgenach na bywyd, a'i fod o'r herwydd yn gorfod dibynnu ar gofnodi moel. Yr hyn a anghofir yw fod yna lenor ffotograffig sy'n medru rhoi osgo i'w gamera, ac un hefyd sy'n methu. Mae'r ddau lyfr yma'n enghreifftiau da o'r ddau fath. Ar y naill law mae camera drud a'i berchennog yn gwybod i drwch y blewyn pa osgo i roi iddo, sut i'w ddal yn gelfydd nes tynnu llun dim ond ei ddewis bethau, gan un ai anwybyddu'r amherthnasol neu ei roi yn ei le ei hun. Mae fel ysbienddrych y Bardd Cwsc yn gweld y pell yn agos a'r bychan yn fawr. Camera cyffredin yw'r llall, yn dibynnu ar glic rhywun rhywun, ond yn cael y cwbl i mewn, yn berthnasol ac amherthnasol, yn dda a drwg. Y diffyg dewis yma yw'r gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy nofel. Mae hyd yn oed eu teitlau'n sumbol o'r gwahaniaeth Y Bryniau Pell yn rhyw daro llygad ar hanner gwlad, a Stryd y Glep yn rhythu ar gongl fechan y naill yn bodoli am hanner oes a'r llall yn byw am ychydig fisoedd. Mewn hanner oes fedr neb beidio â chael profiadau mawr weithiau. Duw a wyddai, yr oedd gan yr ifainc lawer mwy o achos wylo na'r hen yn y byd a oedd ohoni." 'Does dim prinder cyffyrddiadau deallus fel hyn