Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hwyrach mai dyna'r gwir, ond dyma fo am ei werth. Yn ddi- weddar cyhoeddwyd llyfr, The Woman of Rome, a dyma a ddywaid ei awdur Alberto Moraria-i gyfarfod beirniadaeth, mae'n debyg -` I have attributed to her only those feelings and ideas which women like Andriana would express if they had the verbal and mental powers to do so." Ymddengys i mi fod rhywbeth o'i le ar y gosodiad yna. Mae'r Diwygiad wedi profi y gall pobl ymddangos- iadol gyffredin iawn eu mynegi eu hunain yn odidog. Mater arall yw ansawdd a dyfnder y syniadau a fynegir ganddynt. Gellir derbyn y verbal powers ond onid oes raid cael mental powers i gael syniadau o gwbl ? Wrth gwrs, nid yw'r ffaith mai mewn siop y bu Ffebi'n gweithio yn gwahardd diwylliant a dealltwriaeth iddi, ond 'rwy'n rhyw feddwl y gallasai'r awdur fod wedi taflu awgrym yma ac acw i Ffebi fod wedi darllen y llyfr a'r llyfr, ao felly ei gwneud hi'n haws inni dderbyn ei harddull glir, resymegol, a'i dadansoddiad oer ohoni ei hun. Ni fedraf chwaith gytuno â'r beirniaid hynny sy'n mynnu bod Kate Roberts wedi newid ei harddull yn Stryd y Glep. Nid yw'r ffaith fod stori yn delio â meddwl yn hytrach nag amgylch- iadau allanol yn newid arddull. Gweld ynddi yr un synwyrus- rwydd rhyfeddol a wnaf i. Pwy ond Kate Roberts a welai sglein sgert Lwsi yn ymestyn yn llyfn dros wastadedd uchel ei chorff o'i gwasg i lawr," a Joanna'n sefyllian o gwmpas y sêt fawr i ysgwyd llaw efo'r pregethwyr ? J. GWILYM JONES Athrawiaeth y Gymdeithas Gyfiawn, gan Griffith Evans. Pamphledi Cymru Unedig. Gwasg Gwenlyn, Caernarfon. 2/ Cofio Doe, gan D. Perry Jones. Llyfrau'r Dryw. 1 /6. Pedwar Eisteddfodwr, gan Daniel Williams. Gwasg Gee. 3/ Dengys teitl y llyfr cyntaf ar ein rhestr â pha bwnc yr ymdrin ef, ond nid yw'n llyfr hawdd i'w ddarllen. I ddechrau, y mae llawer gormod o wallau argraff ac orgraff ynddo, ac y mae'r rheini'n tynnu ein sylw, er ein gwaethaf, oddi wrth y mater. At hynny, nid yw'n hawdd bob amser ddilyn ymresymiad Dr. Evans, ac ofnaf fod peth o'r bai ar yr awdur, oblegid, er bod y pwnc yn un anodd, fe allesid ei wneuthur yn haws nag y gwneir