Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Coleg Harlech (Coleg Preswyl i Addysg Pobl Mewn Oed) Warden I. DAN HARRY, M.A. Y mae'r Coleg yn meddu adeiladau gwych wedi eu gosod mewn cefndir swynol, ac y mae'r cyrsiau yn agored i fechgyn a merched sydd wedi colli'r cyfle am addysg bellach oherwydd troi i weithio. Cynhelir Cyrsiau am Dymor ac am Flwyddyn mewn Llenyddiaeth Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg, Economeg, Hanes, Athroniaeth, Gwyddor Gwleidyddiaeth, S^coleg, Hanes[Cymru, Cerddoriaeth, Celf a Chrefft. Y tâl am addysg a llety i mewn yn y Coleg ydyw £105 y flwyddyn, neu £35 am dymor. Cynigir Ysgoloriaethau a Chymorth arianncl sy'n ddigoncl i dalu'r costau hyn i gyd gan y Coleg ei hunan. Gellir cael Rhaglen y Coleg sy'n trafod y Cyrsiau a'r Ysgoloriaethau (a rhai ffynonellau ariannol eraill a gynigir i gynorthwyo myfyrwyr dewisol) gan—Yr Ysgrifennydd, Coleg Harlech, Harlech, Meirionnydd. Anfonwch ato ar unwaith am bob gwybodaeth bellach. (Cysylltiedig â'r WEA) JB. Evans a'i Fab. Y Seren, Bala.