Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGBAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMBU CYF. VI HAF 1950 RHIF 2 NODIADAU'R GOLYGYDD CAFODD y WEA yn ddiweddar gryn dipyn o sylw gan rai o'r papurau Cymraeg a Saesneg. Rhoes y Manchester Guardian un o'i ysgrifau arweiniol i sôn amdani fwy nag unwaith. Un tro galwodd sylw at Archwiliad gwerthfawr a wnaeth un o'r Canghennau Seisnig dro arall, bu'n trafod y dosbarth o bobl a fydd yn mynychu'r dosbarthiadau, a'r ffaith mai lleiafrif ohonynt sydd yn perthyn i ddosbarth y gweithwyr llaw a thrachefn, sylwodd mewn ysgrif arall ar y ffaith fod cymaint o bobl yn ymuno â dosbarthiadau'r WEA heb ymuno â'r Gymdeithas ei hun-aelodau o'r Dosbarthiadau heb fod yn aelodau o'r Cang- hennau. Rhoes y Guardian ei fys y tro hwn ar un o'r problemau mwyaf dyrys sydd wedi poeni'r WEA ar hyd y blynyddoedd. Mewn ysgrif arweiniol yn Y Cymro, dywaid y golygydd fod y dosbarthiadau wedi agor y drws i ddiddordebau newydd," a bod cyfraniad y WEA i fywyd Cymru gyfoes yn un sylweddol a phwysig." Gresyn," meddai, na sylweddolid hyn yn llawn gan ieuenctid Cymru, oherwydd heddiw asgwrn cefn y dosbarth- iadau yw'r myfyrwyr hynny o bymtheg ar hugain i fyny." Dyna yntau wedi rhoi ei fys ar un arall o broblemau dyrys Mudiad Addysg y Bobl mewn Oed. Y mae Lleufer yn ddyledus am ei lwyddiant i lawer un sydd wedi cyfrannu ato mewn rhyw ffordd neu'i gilydd-caf ddiolch iddynt ryw dro-ond nid i neb yn fwy nag i'r argraffydd a fu'n gofalu amdano er dechrau 1947, Mr. Stanley Evans. Cymerai ddiddordeb mawr iawn ynddo, a byddai wrth ei fodd yn cynllunio sut i wella'i ddiwyg, a rhoddi iddo wisg lân a phryd- ferth. Collodd Lleufer, a'i olygydd hefyd, gyfaill cywir a serchus pan fu Mr. Evans farw Ddydd Sul, Ebrill 23. Cyd- ymdeimlwn â'i deulu, ac â'r rhai a fu'n cydweithio ag ef yn y gweithdy a'r swyddfa.