Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BLODAU GWYLLTION Gan R. ALUN ROBERTS B ELLACH cyrhaeddodd yr haf i'w anterth a dae thom hyd at syrthni dyddiau'r cWn." Allan ar faes agored y mae toreth y llysiau bellach wedi cefnu ar eu plentyndod, ac yn dalog ymlawenhau yn eu llawn nerth, ac yn bwrw eu blodau. Ciliodd blodau cyntaf haf ar ddôl a thalar. Y rhai cyntaf, chwi gofiwch, i rwbio eu llygaid a deffro'n gynnar ydyw'r rhai hynny a gadwodd olud eu twf y llynedd mewn cnapiau dan y ddaear, blodau fel yr eirlys, blodau'r gwynt a chlychau'r gog. Roedd gan y rheini gyfoeth wrth gefn yn y banc wedi ei gelcio llynedd, i'w wario cyn dechrau cynilo eto eleni. Cynnar hefyd ydyw tymor y blodau a'r llysiau a'r prennau rheini sy'n dibynnu ar y gwynt i gludo'r paill o'r naill flodyn i'r llall-helyg a chyll, gwern a phinwydd. Mae'n rhaid i'r rhain gael gwyntoedd cryfion Mawrth i ysgwyd y prennau praff i'r bôn nes bod gwig o'i chwr yn gwegian," i hidlo'r paill ar adenydd y gwynt a'i wasgar ar led yn ddibris a disberod. Ped arhosent nes gwisgid brigau'r coed â dail fe guddid llawer o'r blodau benyw dan fantell werdd, ac ofer fyddai'r garwr- iaeth. Cymwys felly i'r blodau bychain hyn fod yn ddi-liw a disylw, nid oes gan y gwynt na llygaid na synnwyr, felly bwrw i'w gwaith yn eu noethni yn y Gwanwyn cynnar sydd orau iddynt. Ond ar yr adeg yma o'r flwyddyn, yn anterth haf, swrth a di- awel lawer o'r dyddiau, bellach deorwyd heidiau lawer o bryfed mewn cwm a gallt, ac arnynt hwy yn eu hynt a'u crwydrad i chwilio am ddefnydd mêl y disgyn y gwaith o briodi'r blodau, a blodau lliwgar dengar a'i piau hi bellach. Caiff dynion, unwedd â'r pryfetach, eu dal yn nrysni'r blodau yn dra mynych, a'r edefyn cryfaf yn rhwyd y drysni hwn ydyw lliwiau, yn wyn a glas a melyn a choch, yn frodwaith o brydferthwch. Nid i'n boddio ni â thlysni y crewyd blodau, wrth gwrs, serch bod cyfle gwych mewn gwely gardd i'w britho hi â harddwch. Ynghanol Llundain bythefnos yn ôl gwelais y brodwaith lliw pertaf a welais erioed, am wn i, a hynny ar hiniog ffenestr yng- hanol y ddinas. Ymyl las o flodau lobelia, yna botymau breision gwynion yr Ox-Eyed Daisy, ac ynghanol y rheini ychydig bachigyn, cyhnil, o goch tanbaid Geranium.