Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond pan grwydrwch drwy'r wlad, arall fydd gogoniant a phatrwm y lliwiau a welwch, a'r lliw bob cynnig â'i neges i hudo a llithio rhyw gleren neu bryfetyn i oedi ar ei hald a ffrwythloni'r blodyn. A chyda llaw, 'rwyf o hyn i'r diwedd yn tynghedu i gadw at enwau Cymraeg bob cynnig. Fe'ch sicrhaf fod pob un ohonynt ar barabl byw yng nghefn gwlad yn rhywle, ac yn rhan o'n hetifeddiaeth. Rhoddwch inni gychwyn ar y dolydd a'r gweunydd na thor- rwyd eisioes mo'r gwair arnynt. Soniais ennyd yn ôl am yr Ox- Eyed Daisy. Hwn ydyw brenin y gweirgloddiau, a chymaint mwy addas ei alw yn Llygad Llo Mawr neu Yr Esgob Gwyn fel yr haedda Gwelwch ynddo wyneb esgob, dwys a syberw, yn ei wenwisg o'i ddisgwylfa yn tywallt bendith ar gynulleidfa'r gweiriau sy'n siglo dan ei ddylanwad ychydig islaw ei bulpud Nid un blodyn mohono, ond cymdeithas o flodau bach wedi crynhoi a'u didol eu hunain yn wyn a melyn yn gatrawd gron i'w dwyn eu hunain yn fwy amlwg i sylw'r pryfed a'u gwasnaetha yn eu cenhedlaeth. Ysgwydd wrth ysgwydd â'r Esgob ym mrawdoliaeth y maes agored, dichon y gwelwch Y Cochyn Carpiog," a'i groen llachar yn rhidens "racs grybibion ulw," chwedl plant y wlad­·neu Bacsau'r Brain." Heb fod nepell, toreth o wiail tal Bara Can y Gwcw." Dail Surion y gelwir y rhain weddill y flwyddyn yn y borfa a chynefin iawn i ni ar diroedd surion prin eu calch yng Nghymru. Hoffter plant ymhob talaith ydyw tynnu'r blodau mân coch a melyn yn ddyrneidiau. Dyna fydd ganddynt yn y bowlen siwgr bob amser pan fyddant yn Chwarae Tŷ Bach Y piwiaid mileinig sy'n bla i bladurwyr a chynaeafwyr tan eu chwys ar fin nos, gwybed bach" Sir Gaernarfon-y nhw biau briodi Bara Can y Gwcw. Ond rhaid symud ymlaen at gyfoeth y gwrychoedd. Ni newidia gwedd y gwrychoedd a'r perthi ryw lawer, boed hi'n amser rhyfel mwy nag amser heddwch, boed hi'n fyd da neu boed ddrygfyd ar amaethu. Dyna Farch y Mieri," neu'r Rhosyn Gwyllt." Breu- ddwydiol o dlws ydyw o a'i arlliw o binc lliw gwin drwy wynlliw gwaneg," neu liw gwaed drwy len yr ewinedd ar law." Byr ryfeddol ydyw ei oes ef: Echdoe a doe, heddiw a'i des, A heno fydd ei hanes."