Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pwyd i gredu, yng Nghymru, mai'r ddrama hanes neu chwedl yw unig gyfrwng y bardd i orchfygu'r theatr. Lladd wrth yr Allor .a drosir, ac nid Family Reunion neu waith diweddarach Eliot. Teg dadlau, serch hynny, na bydd bardd yr ugeinfed ganrif wedi meddiannu'r theatr nac wedi ail-fywiogi barddoniaeth, nac wedi rhoi gwaith teilwng i iaith i'w chadw'n fyw, oni lwyddo'r bardd i ganu'r gomedi gyfoes, i gymryd sylw o'r deunydd gwyryfol newydd y daeth Ibsen, yn ei bros, ag ef i theatr Ewrop. Rhaid i'r ddrama fydr ymgodymu ag achub Ibsen ar ei dir dewisol ef-sef y gymdeithas werinol ddi-arwyr, cymdeithas dyn-bach y dosbarth canol y gwthiwyd ef i ganol llwyfan bywyd yn y ganrif ddiwaethaf a hon. Mentraf gredu bod Cynan wedi ei baratoi yn arbennig i'r galw hwn. Ebr Thomas Parry amdano Gwrthryfelodd Cynan yn effeithiol yn ei gerddi ac y mae'r bryddest yn gondemniad miniog ar elfennau yn y gymdeithas. Awen delynegol yw ei eiddo ef, a bardd ydyw a fendithiwyd â rhyw ryfedd ras i ganu'n llithrig heb fynd yn rhigymaidd (Ll.G. 1900-1945, t. 35-36). Y mae ei bryddestau yn adrodd storïau, ei awdl ar fesur y gellir ei estyn, ei grychu a'i ystumio i greu miwsig arbrofodd gyda'i ddrama hanes, canodd Lili'r Grog i'r radio. Ganddo ef y mae'r offer i daflu codwm â'r gomedi-gegin mewn barddoniaeth. Ond yn Hen Wr y Mynydd collodd ei gyfle. Canodd y rhan- nau barddonol megis o newydd yn Gymraeg ac nid cyfieithu, gan ychwanegu ein Cynganeddion Cymraeg lle galwai'r angerdd am hynny." Wrth lwyddiant pendant y rhannau hynny yr wyf i'n mesur fy siom iddo yntau, wrth dynnu a rhoi yn rhediad y stori," ddewis creu comedi tyddynwyr cefn-gwlad yn ôl y patrwm pros y mae eraill llai abl yn abl iddo. Gallasai Cynan greu comedi cefn-gwlad wahanol (ac nid yn unig wneud gwaith cystal â'r rhelyw ohonom) — o'r tyddynwyr yn ogystal ag o'r teipiau anterliwd, y Drwg yn Ahab a'r Da yn Elias y Thesb- iad-a'r mesur Tri-Thrawiad yn ei glust, Syr Tom Tell Truth (y gwelais ef yn ei ddeall mewn ynganiad actio) yn ei brofiad, a chynllun Nicholson ganddo i'w gwpláu'n Anterliwd gyflawn fodern, nid i'w haneru â drama â'i brethyn-cartre wedi llwydo a mynd yn garpiog. Ond y mae Cynan arall llai ffodus na'r bardd-y gwr a fu amser hir wrthi'n darlithio am ddrama, yn dysgu dosbarthiadau, yn cynhyrchu'r ddrama Gymraeg," gan ei berswadio'i hun fod