Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llunio fframiau pren, a chynllunio goleuadau lliw, troi a sefyll, a chamu a mingamu yn y moddau ffasiynol-dros-dro, yn gyfystyr â dysgu creu drama. CYll y daw graen ar ddrama Cymru rhaid dad-ddysgu y cwbl oll y buwyd yn eu llafurus feistroli ers deugain mlynedd, oherwydd rhan o'r ddrama ryddiaith lyffetheirus ydyw. Y Cynan rhyddieithol hwn (y gorau gwr ohonom, bid siwr), a faglodd y bardd, ac a fyrhaodd gam y ddrama fydr. Mor rhwydd yw dweud wrth arall beth y dylai fod wedi ei wneud. Wrth Gynan y dylai fod wedi sgrifennu'r anterliwd grefyddol fodern farddonol fawr ac wrth Thomas Parry y dylai un ai beidio â throi Saeson Eliot yn Prydeinwyr drama Gymraeg neu fod wedi dewis i'w chyfieithu ddrama lai cenedlaethol Seisnig. Chwarae peryglus yw cyfaddasu gan nad oes derfyn iddo, ac y mae un frawddeg Thomas Parry yn newid cymaint â holl greadigaeth Cynan ar y naill awdur gwreiddiol fel y llall. Pan droir campwaith Eliot i ieithoedd Ewrop, ond odid nad erys yr ymadrodd Saeson ydym ni," gan wybod y gall torf theatr dramor tros dro ei throsglwyddo ei hun i naws Seisnig problem fyd-eang Eliot ond ar ôl pryder beirniadol dwys penderfynodd y Cymro na ellir bellach gael gan dorf theatr Gymraeg synio amdani ei hun fel cenedl ar wahân byddai cael ei chyfarch o'r llwyfan (a'i gorfodi i dderbyn cyfrifoldeb gyda'r milwyr) â'r ymadrodd Saeson ydym ni yn cythruddo'i theim- lad sentimental a distrywio'r amcan dramatig. Felly rhaid fu mentro ar y term an-Seisnig (nad yw mewn dim barddoniaeth Saesneg), cyn gobeithio i'r ddrama gyffwrdd â ni, nyni a beidiodd â bod yn genedl Gymraeg, na allwn fod yn genedl Saesneg, ac y mae'n rhaid arnom fod gan hynny yn rhanbarthol ein henaid, yn Brydeinig ein teithi. A dyna sialens y dydd i Thomas Parry ac i GYllan-ddyfod ohonynt yn feirdd cyfan i'r theatr Gymraeg, gan gynnig i'r genedl ddrama a fydd ar ddau lefel yn ddrama genedlaethol- a fydd yn gosod y genedl ar wahân, yn genedl gyfan Gymraeg ar un lefel, ac ar y llall a fydd yn canu'r bywyd Cymraeg rhagor y rhanbarthaeth a'r ddosbarthaeth sydd wedi goroesi yn ein theatr. Beirdd mawr, wedi eu paratoi'n addas, fel y ddeuwr hyn, yw angen theatr Cymru yn wyneb ail-hanner y ganrif hon. Bu farw e ddiffrwythder bob drama ond drama'r beirdd.