Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fodd i'w gwerthu er mwyn elw sylweddol. Cofiodd yn sydyn am wraig Pen-y-Bryn. Yr oedd ganddi hi bump o feibion preiffion a chyhyrog, heb sôn am y gWr. Dyna rolyn o wlanen yn mynd ar unwaith. Rhaid gyrru nodyn y peth cyntaf fore'r Llun iddi, i'w hysbysu am fargeinion y wlanen. Hwyrach, pan ddelai i'r faelfa, y gallai ei darbwyllo i brynu ychydig o wlanen goch Corwen erbyn y gaeaf. Beth am drio John y Teiliwr ? Yr oedd ei stoc ef yn lled isel, yn ôl tystiolaeth y trafaeliwr, a heb obaith cael rhagor i mewn. Yr oedd John hefyd yn gwneud trafnidiaeth dda mewn crysau i weithwyr y dref. Nodyn bach hefyd i John fore'r Llun. Dyna fel yr oedd Rhys yn mynd o gylch y dref, gan chwilio am gwsmeriaid, nes iddo yn y diwedd werthu ei holl stoc o wlanen. A'r Parch. Josiah yn parhau i daranu'r drefn uwch ei ben, ond ni chlywai ef ddim ond rhyw lais bach yn y pellter draw. Soniai'r pregethwr yn awr am y newyn yng ngwlad Canaan. Cafodd Rhys grap bach ar y gair newyn," a dyma'i feddwl yn syth at ei ddyledwyr Josi Cwmdu wedi bod yn afiach am rai misoedd, ac wedi dechrau gweithio. Yr oedd dwy bunt yn aros ar y llyfrau gyferbyn â'i enw. Rhaid ei wylio y pae nesaf a'i siarsio i dalu ar fyrder. Punt yn aros ar Fari'r Bacws a rhaid iddi hi dalu mwy na swllt yr wythnos, onid e, fe âi hanner blwy- ddyn heibio cyn clirio'r ddyled. Ond beth am Twm y Saer ? Siwt newydd sbon, ac wedi addo talu i lawr amdani, a'r cnaf heb fod yn agos i'r faelfa Y siwt yn ôl ar unwaith, neu arian parod amdani. Ar hyn, dyma Rys yn clywed clap mawr uwch ei ben. Y Parch. Josiah Jones wedi dod i ben ac wedi cau'r Beibl Dychwelodd Rhys ar unwaith o'i holl grwydradau a'i fargeinio, yn ôl i'r sêt fawr i blith ei frodyr, a dim ond mewn pryd yr oedd i uno yn yr Amen gyda hwy. Ef oedd y cyntaf i longyfarch y gweinidog ar ei bregeth odidog. Da iawn, wir, Mr. Jones," meddai dan wenu, da iawn, pregeth ragorol, ych chi'n gwella bob Sul." Diolch ichwi, Mr. Ifans, am wrando mor dda," atebodd y gweinidog. Mae'n ysbrydiaeth i bregethu i sêt fawr mor dalentog." Gwasgarodd y gynulleidfa ac aeth pob un i'w ffordd. Teithiai Rhys adref dros yr un llwybr trwy ogoniant yr Haf, a'i enaid yn ei faelfa. Pan gyrhaeddodd y ty, gofynnodd ei wraig iddo