Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

phleser mawr am yr hyn yr oedd yr Undeb yn ei wneud i helpu bechgyn ieuainc i'w diwyllio eu hunain, ac y carai roddi swm cyfartal i'r hyn a roddai'r Undeb i'r rhai hynny o'i weithwyr ef a âi i'r Ysgol Haf. Bellach, y mae dros chwarter canrif er hynny, a da gennyf ddeall bod y Mudiad heddiw yn fwy llewyrchus nag erioed yn fy hen ardal annwyl. Mewn dramâu Saesneg poblogaidd, cyn belled yn ôl â Sheri- dan a Goldsmith, beth bynnag-ni allaf gofio y funud yma am enghraifft gan Shakespeare­·ceir dyfais ogleisiol a elwir yn doublé entendre gellid ei galw yn Gymraeg yn fwys- ymddiddan", neu 0 boptu'r gwrych chwedl Daniel Owen. Bydd dau gymeriad yn siarad â'i gilydd, a'r ddau'n medd- wl am ddau beth gwahanol, ac yn camddeall ei gilydd ar hyd y ffordd. Difyr iawn i gynulleidfa fydd gwrando ar yr ymddiddan amwys, digrif yma, a hithau'n gwybod beth sydd ym meddwl y ddau siaradwr, er nad ydynt hwy yn deall ei gilydd. Rhoddir sylw i'r ddyfais hon mewn llawlyfrau ar y ddrama fe'i ceir weithiau mewn nofel hefyd. Nis ceir yn nofelau cyntaf Daniel Owen, Y Dreflan a Rhys Lewis, ond fe ddigwydd ddwy- waith yn Enoc Huws. Am y sgwrs rhwng Enoc a Marged, lle y mae Enoc yn ceisio dweud wrth Farged fod arno eisiau priodi Siwsi Trefor, a hithau'n meddwl ei fod am ei phriodi hi, y mae'n sicr fod hon wedi ei benthyca o hanes Pickwick v Bardell yn The Pickwick Papers. Ond fe geir enghraifft arall o fwys- ymddiddan yn Pennod xi, lle y mae Capten Trefor yn sôn am gael Enoc Huws i gymryd shâr yng ngwaith Pwllygwynt, ac yntau'n meddwl mai priodas rhyngddo ef a Siwsi ydyw testun y sgwrs. Tybed, a fu Daniel Owen yn astudio rhyw lawlyfr ar dechneg y ddrama a'r nofel rhwng ysgrifennu Rhys Lewis ac ysgrifennu Enoc Huws ? Dywaid Ifor Williams fod gwladoli yn well gair Cymraeg am nationalisation na cenedlaetholi." Y mae'n dda clywed y BBC yn ei ddefnyddio, a thrwy hynny gellir disgwyl iddo bob yn dipyn gael ei arfer yn fwy cyffredin.