Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gronant, Cymau, a Phantymwyn. Amryw leoedd wedi ail ddechrau wedi bod am gyfnod, hir neu fyr, heb ddosbarth. Yn ystod y gaeaf sefydlwyd cangen newydd yn Nyffryn Ceiriog. Daeth cynrychiolwyr o bob cwr o'r dyffryn i'r cyfarfod sefydlu, ac yr oedd yn bleser bod yno gyda hwynt. Dewiswyd swyddogion gweithgar a selog-pob llwyddiant i'r gangen newydd. Cafwyd Cyfarfod Blynyddol lluosog a bywiog i Gangen y Bala a Phenllyn. Gwnaed gwaith da yn y cylch hwn yn ystod y gaeaf, a threfnwyd saith o ddosbarthiadau. Bwriedir trefnu Ysgolion Undydd ac, efallai, Ysgol Haf Ddibreswyl. Argoelion da yma. Dwy Gangen a ail-gydiodd yn y gwaith o ddifrif eleni ydyw Canghennau Dyffryn Clwyd a Phenmaenmawr. Gwelwyd ad- fywiad addawol yn y ddau Ie, ac ail-drefnu o ddifrif. Bu'n bleser cydweithio â hwynt i roi'r gwaith ar y gweill unwaith yn rhagor. Cefais fwynhad o fod yng Nghyfarfodydd Blynyddol Cang- hennau'r Waun a Chollen-dwy Gangen sy'n ymroi ati'n selog dymor ar ôl tymor, ac yn gymdeithasau o bwys yn eu cylchoedd. Cangen Llandudno Junction yn cynnal Ysgol Undydd ar Y Ffilm mewn Addysg ac Addysg a Chymdeithas," a Haydn Jones, Trefnydd Moddion Gweledig yn Sir Gaernarfon, a'r Canon Gwynfryn Richards, Conwy, yn ddarlithwyr. Maer Conwy yn gadeirydd, sef Gorsaf-feistr Llandudno Junction, a hwnnw'n adrodd hanes cychwyn Cangen y WEA yno. Pedwar ohonynt yn cyfarfod yn y Waiting Room yn Platform No. 2", a phender- fynu ffurfio Cangen. Llwyddodd y Gangen yn fawr, ac er ei chychwyn ar blatfform ni safodd yn ei hunfan. Trefnodd Prestatyn Seiat Holi, a'r myfyrwyr yn ateb y cwestiynau. Hefyd, trefnwyd dadl rhwng y ddau ddosbarth, a'r athrawon yn brif siaradwyr, a Syr Wynn Wheldon yn y gadair. Yng Nghylch Gwyrfai, aethant ati i drefnu arwerthiant yng Nghaernarfon i'r WEA, a chafwyd hwyl ragorol. Diolch i bawb. Cafwyd Rali Aduniad y Myfyrwyr ym Mangor Ebrill 22, y Rali orau er cyn y Rhyfel, a'r Neuadd Bowys yn llawn. Syr Wynn Wheldon ac Esgob Bangor oedd y siaradwyr, a'r Prifathro Emrys Evans, fel arfer, yn gadeirydd. Cyfarfod hwyliog dros ben. Cofiwch am Gyfarfod Blynyddol y Rhanbarth brynhawn Sadwrn, Gorff. 1, yn Llandudno Junction. Ymhen wythnos, cynhelir Ysgol Haf arbennig ym Mangor ar Broblemau ynglŷn â Chenedlaetholi," o Orffennaf 9 hyd 15. Ceir pob manylion o'r Swyddfa, neu gan Gyfarwyddwr Efrydiau Allanol Coleg Bangor.