Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDFA YNG NGHAERDYDD Gan D. T. GUY VN ystod yr wythnosau diweddar, bu nifer o'n Canghennau yn cynnal eu Cyfarfodydd Blynyddol, ac y mae eu Hadrodd- iadau'n dechrau dyfod i mewn i'r swyddfa. Medrais fynd i rai o'r cyfarfodydd, ac yr oeddwn yn falch iawn o weld yr hyder tawel a nodweddai'r aelodau. Pan ddaw'r Adroddiadau i gyd i mewn credaf y bydd gennyf stori galonnog i'w hadrodd am flwyddyn nodedig o weithgarwch. Bûm yn Nhon Pentre ( Rhondda Fawr) yr wythnos o'r blaen- cyfarfod i atgyfodi Cangen o'r WEA a oedd wedi marw. Dyna lle'r oeddem, yn gwmni dewr, gwresog dros Addysg Pobl mewn Oed, yn cyfarfod yn Nhy Cwrdd y Crynwyr, i fyny yn uchel ar ochr y mynydd. Gorchuddiwyd yr holl lechwedd ag eira, a dal- iodd i fwrw eira yn galed tra buom yn trafod problemau'r gangen. Nid yn aml y bu neb yn ail-sefydlu Cangen o'r WEA yn agos i ddiwedd mis Ebrill mewn amgylchiadau mor annymunol. Medd- yliwch am y bardd Saesneg, Browning, yn canu, Oh, to be in England now that April's there Aprü, wir Y mae trefniadau ar dro i gynnal nifer o Ysgolion Haf Di- breswyl yn y Rhanbarth mewn cydweithrediad â Choleg Harlech. Daw'r manylion ymhellach ymlaen. Cynhaliwyd Ysgol Fwrw Sul yn ddiweddar yng Nghastell Dunraven, Southerndown-y gyntaf o gyfres o bedair. Darlith- iodd T. G. Jones ar Bolisi Economaidd ac Adferiad." Rhoddwyd y ddarlith agoriadol gan B. B. Thomas gofynasom iddo siarad ar Unesco, ac fe wnaeth. Cawsom anerchiad rhagorol ganddo, a thair darlith gampus gan Mr. Jones ar ei ôl. Yr oedd trigain o Undebwyr Llafur yn yr ysgol, aelodau o ddeuddeg o wahanol Undebau. Y mae'n hysbys fod Ernest Green, Ysgrifennydd Cyffredinol y WEA, wedi ymddiswyddo eleni, a Harry Nutt, y Trefnydd Cyffredinol, wedi ei benodi i'r swydd yn ei le. Y mae'n dda gennyf ddweud mai William Gregory, gẃr o Ddeheudir Cymru, a benodwyd yn Drefnydd Cyffredinol yn lle Mr. Nutt. Bu'n fyfyr- iwr yn nosbarthiadau'r WEA i ddechrau, ac wedi hynny yn athro dosbarthiadau llwyddiannus iawn, er na chawsai hyffordd-