Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddirnad sut y gallodd llanc tair ar hugain oed fyfyrio mor ffrwyth- lon nes cynhyrchu llyfr mor felys ei naws, mor hyfryd ei flas, mor groyw ei Gymraeg, â'r Cydymaith. Myfyrdodau sydd yma ar bedwar tymor y flwyddyn, gan un a welai ynddynt beunydd a byth gysgodion o'r pethau anweledig," ac a fyn dorri allan i ganu bob hyn a hyn, a phlethu ei fyfyrdodau yn gywrain ag ymadroddion o'r Beibl. Clasur bach, yn ddiau; ac wedi ei olygu'n ddeheuig dros Wasg y Brifysgol gan yr Athro Henry Lewis. Nid yw William Thomas, Glanffrwd," yn golygu rhyw lawer o ddim i'r rhan fwyaf ohonom erbyn heddiw, er iddo fod yn eisteddfodwr mawr yn ei ddydd. Gyda chyhoeddi'r llyfr, Llanwynno, o'r eiddo, dyma gyfle iddo ein denu i ymddiddori ynddo unwaith eto, ac i ddiolch iddo hefyd am drysori mor gywir a manwl ei gofion am ardal ei febyd. Pwy ni hoffai wybod y modd yr oedd y Cymry'n byw ym Morgannwg cyn dyfod y dilyw diwydiannol drostynt ? A chael yr wybodaeth honno gan wr diwylliedig a garai ei blwyf genedigol uwchlaw yr un, ac a gredai fod yr hen ddull Cymreig o fyw yn un llawer gwell na'r un a ddaeth ar ei ôl. Yn yr ysbryd hwnnw yr ysgrifennodd Glanffrwd y llyfr hwn-un ar ddeg ar hugain o benodau difyr a sionc, am arferion yr hen bobl dda gynt, eu diddordebau a'u chwaraeon, eu chweg a'u chwerw, eu ffeiriau a'u ffynhonnau, eu twym a'u hoer. Ceir yma gystal disgrifiad o'r Cymorth ag mewn llyfr yn unlle, ac o lawer agwedd arall ar gymdogaeth dda yr hen drigolion. Ni ddigwydd S.R." — neu Samuel Roberts Llanbrynmair- fod yn un o'm harwyr arbennig i. Eto i gyd, yr oedd iddo le pwysig dros ben ym mywyd Cymru y ganrif ddiwaethaf, a da yw cael cofiant teilwng ohono o'r diwedd. Rhaid yw rhoddi cymaint •â hynny o glod i lyfr Glanmor Williams arno yn y gyfres lyfrau dwyieithog a gyhoeddir adeg Gwyl Ddewi ers blynyddoedd bellach. Y mae'n llawer tecach llyfr nag eiddo Dr. Pan Jones ar « Y Tri Brawd ac o'i faint y mae'n hynod gynhwysfawr. Ar ôl pennod ragymadroddol ar y cefndir, dilyn Mr. Williams yrfa S.R. o gam i gam yn lled fanwl ac yn gywir iawn, gan ei ddilyn i America ac ynä'n ól,' yn y diwedd, i Gonwy i ddiweddu ei ddyddiau. Yn y ffeithiau aml a nodir ganddo, ni welais i ond un gwall, sef ar t. 76, y cyfeiriad at William Bebb a ddaeth wedyn yn llywydd Ohio." Yn hytrach, wedi bod Yllllywydd yr oedd W.B., tua 1844-46. Y mae ambell frycheuyn y talai ei