Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gywiro mewn argraffiad diweddarach e.e. t. 9, iechydol (=iechyd) t. 12, ofergoeliaeth, t. 32, bugail yr un praidd (heb yr "), t. 56, i ôl calch (=nôl). Nid da gen i, chwaith, y math yma o sgrif- ennu: Codwn lef yn eu herbyn, cymhellai (t. 62). Cymraeg mwy naturiol fyddai-" Cymhellai hwy i godi llef Ond manion bethau yw'r rhain, a rhyw un neu ddau arall. Y gwir amdani yw i Mr. Williams sgrifennu llyfr trwyadl dda ar S.R., gan ei osod yn ei briod gefndir, a'i gloriannu'n deg ddigon. I'm tyb i, diffyg mwyaf S.R. ydoedd na wyddai fawr ddim am wir haelfrydedd ysbryd. Maddeuwn hynny iddo oherwydd ei amryw rinweddau mawr eraill; a diolchwn i Mr. Williams am lyfr golau ac am y lluniau sydd yn ei harddu. Llyfr Saesneg ydyw'r olaf o'r pump, a'i awdur yw Gwynfor Evans, Llywydd presennol y Blaid Genedlaethol. Ymgais a wneir yn hwn i ddisgrifio prif nodweddion meddwl a breuddwyd a gweith- gareddau'r Blaid, a llwyddir i fynd tros y rhan fwyaf o'r maes yn gryno ac yn groyw iawn. Nid hollol mor drefnus bob rhan â'i gilydd chwaith e.e. y drydedd bennod, sydd braidd yn gymys- gedd ohoni ei hun, a heb fod yn olau iawn ei chysylltiad â'r gwedd- ill. Prin, hefyd, y gwneir yn ddigon eglur mai is-adrannau o'r bumed bennod yw'r hyn a roddir inni rhwng t. 50 a t. 67. Ar wahân i hynny, y mae'r llyfr yn un darllenadwy dros ben, ac yn hawdd ei ddilyn a'i ddarllen o un pen i'r llall. Efallai y gallai fod yn fwy diamwys mewn lIe neu ddau e.e. ar t. 9, y mae amhariad ar frawddeg gyntaf yr ail baragraff. Oni lithrir, hefyd, ar t. 45, wrth honni bod y llywodraethau taleithiol mewn ffederal- iaeth yn meddu ar yr un statws yn union â'r Llywodraeth Ganol ? Ac oni chyfaddefir hynny, mewn ffordd arall, ar y tudalen sy'n dilyn ? Manion eto, yn ddiau a manion nad ydynt yn amharu dim ar rediad y ddadl yn y llyfr tra defnyddiol hwn. Anodd fyddai cael cystal darnodiad o fodd ac amcan y Blaid ag sydd yn y llyfr hwn. Y mae'n dryfrith o ffeithiau pwysig odiaeth am sefyllfa Cymru heddiw, ac yn llawn hyder am y dull i ddwyn ymwared i genedl ar gyfeiliorn. W. AMBROSE BEBB