Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i Ddosbarth Allanol y rhoddwyd deunydd y llyfr hwn yngyntaf oll, a chredwn fod hwn, fel yr un blaenorol, yn llyfr addas i Ddosbarth- iadau felly. Mewn maes mor eang yr oedd yn rhaid gadael llawer allan a chanolbwyntio ar yr agweddau amlycaf yn natblygiad y grefydd Gristionogol. Nid yw hynny bob amser yn anfantais yn ogymaint ag y rhydd inni well syniad am gwrs y datblygiad, ac am allu Cristionogaeth i oroesi troeon hanes. Ac fel y dengys yr hanesydd Latourette, y mae hyn yn ysbrydiaeth mewn dyddiau anodd ac yn gymhelliad i ddyfalbarhau. Llwyddodd yr Athro Isaac Thomas i grynhoi llawer o wybod- aeth o fewn cylch wyth bennod cymharol fyr. Y rhannau gorau o'r llyfr yw'r tair pennod cyntaf, ynghylch dechreuad a hanes bore Cristionogaeth, a'r bennod am y Diwygiad Protestannaidd. Prin yw'r ymdriniaeth â'r Canol Oesoedd, ac er mwyn y darllen- ydd o Gymro gallesid bod wedi rhoi mwy o sylw i'r Eglwys Geltaidd-pennod fawr sy'n llawer rhy ddieithr. Ond nid yw dywedyd hyn mewn modd yn y byd yn tynnu dim oddi wrth ein gwerthfawrogiad o gyfrol gynhwysfawr. Casgliad o emynau gan Nantlais yw Emynau'r Daith-57 yn Gymraeg a 18 yn Saesneg. Emynau yw'r rhain a gyhoeddwyd o dro i dro mewn amryw gylchgronau, neu a gyfansoddwyd ar gyfer amgylchiadau arbennig, ond ni chynhwysir y rhai a ymddangos- odd eisoes mewn Llyfrau Emynau. Ar ddiwedd y llyfr y mae Nodiadau diddorol ar bob un o'r emynau, sy'n chwanegu at werth y cyfan. Da ydoedd casglu'r trysorau hyn a oedd ar wasgar a'u rhoddi yn ein cyrraedd yn eu ffurf bresennol. Ond paham y goddefwyd pethau fel pan mae (i), pan yr (v), anrhaethadwy (xv) ? Awen gynhyrchiol yw'r eiddo T. E. Nicholas ac y mae ei bryddest Meirionnydd yn hyfryd i'w darllen. Dyma ddarlun byw a theimladwy o Feirionnydd gan un a wyr ei hanes ac a gâr ei daear a'i gwerin. Cawn yma ysbryd diffuant, geirfa gyfoethog, a saernïaeth goeth. Pan gynigir inni gymaint o afrwyddineb a thywyllwch yn enw barddoniaeth y mae'n werth sylwi mai coethder a goleuni, saernïaeth a rhwyddineb, sy'n mynd gyda'i gilydd. Dylai'r bardd ei fynegi ei hun fel y gallo eraill ei ddeall a chael boddhad yn ei waith. Y mae T. E. Nicholas yn esiampl dda o hyn. Y mae'n olau-eglur heb fod yn arwynebol, yn rhwydd heb fod yn rhad, oblegid y tu cefn i'r cwbl y mae disgyblaeth lem a chyson. Ffrwyth y ddisgyblaeth honno yw'r sylw a roddir i lendid iaith a dillynder ymadrodd.