Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GLADSTONE A GLOWYR RENARLAG GAN EMLYN ROGERS "Y DIAWLED," chwyrnai Nhad, gan ruthro'n wyllt i mewn o dan ddylanwad y ddiod, ryw Nos Sadwrn flynyddoedd lawer yn ôl. Be sy'n mater rwan gofynnai fy mam, yn dawel. Rhegodd. Chwe coliar yn nhafarn Meri Parri yn gwrthod talu'r Undeb." Dewa lonydd i nhw. Stedda yn y gader ne, a cei damed blasus o swper mewn munud." Plentyn chwe mlwydd oed oeddwn i, yn swatio fel cwnhingen fechan ar y fainc ger y tân yn yr hen dy a siambar. Dyma ti gader, machgen i ebe Nhad, ar ôl tawelu, â rhyw hanner gwên ddiniwed ar ei wyneb, gan anwesu breichiau'r gadair â'i ddwylo corniog. Cader George Osborne Morgan, y Radical. Yn y gader yma fe'i cariwyd ar sgwyddau'r coliars trwy'r Poncie yn lecsiwn 1895." A chan syllu ar bictiwr ar y pared, meddai, Dene ti ddyn mawr, Emlyn-Gladstone, y Grand Old Man." Ni cheid nemor gartre glowr yn Rhos Llanerchrugog, hanner can mlynedd yn ôl, heb ryw ddarlun o gawr Penarlâg. Tyd one, dyma damed iti, Edwart." A Nhad, gan nesu at y bwrdd, yn ail fwrw'i lid ar y gweithwyr sâl na pherthynent i'r Union." Gwell fuasai ganddo ef wynebu dydd y farn, er amled ei bechodau, na chyfarfod y Lodge â dyled ar ei diced aelodaeth, Tybed, a wyddai am ymddygiad Gladstone tuag at lowyr Penarlâg, a fu'n brwydro mor galed am hawliau'r Undeb yng Nglofa Aston Hall yn 1874 ? Er deall yr amgylchiadau a alwodd am ymyrraeth Gladstone dylid sylwi ar lwyddiant economaidd eithriadol Prydain Fawr yn ystod yr ugain mlynedd o'r blaen. Nid oedd allforion Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal gyda'i gilydd yn llawn cymaint ag eiddo ein gwlad ni. Chwyddodd gwir-gyflogau'r gweithwyr yn fwy na'r hanner yn ystod yr un cyfnod. Ac yn sgil y ffyniant digymar hwn, cynyddodd Undebaeth bron yn anhygoel. Os cywir y ffigurau a roddid gan Gynhadledd yr Undebau Llafur a gyfarfu yn Sheffield ar ddechrau blwyddyn gofiadwy. 1874, ceid ymhell dros filiwn o