Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GORCHFYGU'R MOSGITO GAN O. E. ROBERTS "VTI cheisiwyd ymosod ar broblem malaria o ddifrif nes i Adran Iechyd Cynghrair y Cenhedloedd ei wneud yn bwnc cyd- wladol. Oherwydd amgylchiadau'r rhyfel, prinder meddygon, diffyg cyfundrefnau iechyd, prinder cwinîn, a thlodi llawer o wledydd, yr oedd y sefyllfa yn bur ddrwg yn 1918. Ail-ymddangosodd malaria mewn ardaloedd a gliriwyd cyn hynny. Yr oedd y brob- lem tu hwnt i lywodraethau a weithiai ar eu pennau eu hunain. Ffurfiwyd is-bwyllgor gan Gynghrair y Cenhedloedd yn 1923. Tyfodd hwnnw yn Gomisiwn Malaria yn ddiweddarach, â 54 0 aelodau, a chasglodd ffeithiau lawer drwy anfon arbenigwyr i'r gwledydd a ddioddefai. Yn 1927, cyhoeddodd y Comisiwn ei ddwy brif egwyddor; triniaeth i'r gwael yn gyntaf, ac yn ail lladd parasit malaria, un ai yn y dioddefydd neu yn y mosgîto. Dang- osodd Adroddiadau'r Comisiwn yn eglur nad yr un mesurau a lwyddai ymhob man. Dibynna'r cwbl ar amgylchiadau lleol. Yn naturiol, pe llwyddid i ddinistrio'r parasit yn y gwaed dynol bob tro, byddai terfyn ar yr haint. At hynny yr anelodd y meddygon â chwinîn. Cynorthwywyd hwynt gan y gwyddonwyr a geisiodd wella ar hynny â chyfansoddau cemegol fel atebrin a phroguanil. Hyd yn hyn ni lwyddwyd i ddarparu cyfansawdd sy'n lladd y parasit pan chwistrellir ef i'r gwaed gan y mosgîto, ond yn hytrach ymosodir arno yn ystod ei ddatblygiad yn y corff. Nid yw defnyddio cyffuriau fel hyn yn rhoi rheolaeth sicr ar falaria mewn poblogaeth eang, wasgarog, mewn ardaloedd heintus. Gellir rhwystro i'r mosgîto frathu dyn drwy roi sgrin o rwyd- waith rhyngddynt. Amhosibl ydyw gofalu am sgrin felly bob amser. Darganfuwyd nifer o sylweddau nad yw'r mosgîto'n hoff ohonynt, megis sitronela a DMP (dimethyl-phthalate), a gellir eu rhoi ar y dillad a'r corff, ond byr yw eu heffaith. Felly, rhaid ymosod ar y mosgîto ei hun, un ai fel larfa (cyn- rhonyn) yn y dwr y datblyga ynddo, neu fel gwybedyn yn ehedeg. I ymosod ar y larfa yn y lleoedd gwlyb y megir hwynt ynddo wedi eu deor, gellir weithiau roi pysgod a'u bwyty yn y dwr, neu sychu'r corsydd, neu daenu sylweddau arbennig ar wyneb y dŵr.