Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TAITH YN YR HAF GAN KATHLEEN LLOYD JONES Y MAE gan bob tymor ei swyn arbennig ei hunan-swyn sydd yn parhau o flwyddyn i flwyddyn ac yn ymddangos bob blwyddyn mor newydd ag erioed. Ond sylwais a synnais yn aml gymaint yn gryfach yw swyn y tymhorau o edrych yn ôl arnynt a phrofi eu pleserau mewn atgofion. Pan fo gwynt y dwyrain yn cwynfan o amgylch y tý ar noson o aeaf, daw rhyw hiraeth weith- iau am glywed swn tynerach y gwenyn yn mwmian o flodyn i flodyn yn yr ardd yng ngwres yr haf. Ac ar ddiwrnod poeth yng nghanol haf, cerddaf drwy'r tywod ar lan y môr, a gwelaf mewn dychymyg ôl fy nhraed ar Iwybr yr ardd yn eira cynta'r gaeaf. Diolch am atgofion a dychymyg sydd yn cadw yn fyw brofiadau melys y flwyddyn ar ei hyd. Y mae gennyf gof am lawer diwrnod hapus pan fûm am dro yn yr haf — am dro i fyny'r mynydd-am dro i lan y môr­neu am dro bach dim ond i Ben y Bane, a bydd meddwl amdanynt o hyd yn dod â gwên i'm gwefusau ac weithiau ddeigryn i'm llygad. Ond, rywfodd, nid un diwrnod a gofiaf, ond yn hytrach ryw gymysgedd o bob math o atgofion-yr high lights o'r troeon dedwydd a gefais erioed yn dod yn ôl i'm meddwl fel rhyw albwm ardderchog. Eisteddaf yn y gadair freichiau, ac er bod y nos oddi allan yn dywyll ac yn oer, syllaf i'r tân a threuliaf ddiwrnod o haf bendigedig. Af am dro, i'r mynydd, i lan y môr, hyd lannau afonydd a thrwy goedwigoedd, a phrofaf o'u bendithion i gyd heno. Ynghanol mynyddoedd y magwyd fi, ac y mae'n debyg fy mod allan o'm cynefin wrth y môr. Yn wir, 'does gen i fawr i'w ddweud wrth y syniad cyfíredin o lan y môr — a'i nodweddion amlycaf yn deck chairs, ac ice cream, a channoedd o bobl ar draws ei gilydd. Ond y mae ambell lecyn tawel ar draeth Harlech lle treuliais lawer diwrnod o haf heb neb ond y gwylanod i dorri ar fy heddwch. Y mae ynys fechan yn Sir .Fôn o'r enw Llanddwyn. Yno gwelais fwy o adar nag a welais yn unman erioed. I fynd yno cerddwn rai milltiroedd ar draws y morfa, a rhaid oedd cerdded