Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEIRI DRAMA CYN OES SHAKESPEARE GAN R. WALLIS EVANS I I. Comedi Trasiedi Y Ddrama Hanes. 1. COMEDI. — Petai rhywun digon mawr wedi codi i fedru deall crefft y ddrama Johan Johan, a sylweddoli gymaint o dir a dorrodd John Heywood, buasem ar unwaith ar drothwy comedi wir fawr, oblegid plot cywrain a da yn unig oedd yn eisiau. Ni ellid disgwyl dim o gyfeiriad yr Interlude fel teip oherwydd gosodid y pwys i gyd ar ymddiddanion a difyrrwch. Yr oedd y chwaraeon moes fel Everyman a The Castell of Perseverance, hwythau, yn anodd eu haddasu yn herwydd eu hyd a natur eu cynnwys. Felly hefyd am y cylchoedd mawr-Caer, Wakefield, Coventry a Chaer- efrog. Y dramâu y gellid disgwyl y datblygiad mwyaf ohonynt i gyfeiriad drama gynnil oedd y chwaraeon miragl a ymwnâi â bucheddau'r saint. Yr oedd y rhain yn fyr ac i'r pwynt, ond eu hanfantais oedd mai'r un fyddai eu diweddglo bob un. Yr oedd yn rhaid, felly, wrth un o ddeubeth-un ai athrylith i sylweddoli'r angen a'i gyflenwi, neu ynteu batrymau newydd o wledydd tramor i fod yn faes astudiaeth. Ni chododd athrylith ei ben, ond trwy Iwc daethpwyd ar draws patrymau teilwng. Eithr yn anffodus, wedi cael y patrymau, buwyd yn hir cyn sylweddoli eu harwyddocâd. Yn 1530, cyhoeddwyd Calisto and Melibaea, efelychiad o gom- edi Sbaeneg. Yr oedd iddi blot cymharol dda, yn symud yn gyflym o'r naill ddigwyddiad i'r llall nes cyrraedd yr argyfwng. Y mae'n wir fod llawer iawn o frychau ar y ddrama, ond ychydig os dim sylw a gafodd nid oedd neb yn ddigon effro, rywsut, i nodi ei diffygion a gwella arnynt. Aeth y blynyddoedd heibio heb weled unrhyw fath o ddatblygiad nes i ysgolhaig Lladin, Nicholas Udall, Prifathro Ysgol Eton, gŵr hyddysg yn nramâu Lladin Plautus, benderfynu yn y cyfnod 1544-51 ysgrifennu comedi debyg iddynt. Cafwyd nifer o gyfieithiadau yn y cyfamser, ac ambell ddrama wreiddiol, ond yr oedd gwaith Udall yn gyfraniad arbennig iawn. Ei fwriad oedd ysgrifennu comedi Saesneg a allai ddal y gannwyll ag un o ddramâu Rhufeiniwr. Bu'r cynnig