Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFFES GYHOEDDUS GAN OWEN J. JONES NID oedd cysgod o amheuaeth bellach Ymdaenodd distawrwydd anghysurus dros gynulleidfa'r "Capel Bach". Fflachiodd meddwl pob un o'r aelodau hynny a oedd mewn oedran i gofio, yn ôl gryn ddeng mlynedd, i ddydd angladd Gwenno'r Morfa. Rhoi Gwenno'r Morfa i'r pridd ar b'nawn braf o Awst- Gwenno o bawb, a gyfrifid yn fendigedig iach Ni chlywyd iddi gwyno erioed, ac yr oedd i bawb a'i cyfarfyddai yn bictiwr o iechyd. Eto, bu farw fel diffodd cannwyll. Na ad i ni yn yr awr ddiweddaf, er neb rhyw boenau angau, syrthio oddi wrthyt." Rhoddwyd arwydd gan drefnydd yr angladd, a chodwyd yr arch i fyny ryw fodfedd neu ddwy tyn- nodd Tomos y clochydd y ddau bren croes a orffwysai ar y planciau, a dechreuodd gweddillion Gwenno ar eu taith i lawr. Plygodd y rheithor at bentwr bach o bridd a oedd yn dechrau brig-sychu ac ymffurfio'n gyrnin fechan ar un o'r planciau. Cymerodd binsiad ohono, a bwriodd ef i lawr i'r bedd ar deirgwaith, gan amseru y taflu â'r geiriau sy'n pwysleisio ein gwneuthuriaid brau. Daear i'r ddaear Lludw i'r lludw Pridd i'r pridd Sŵn amhersain i bawb oedd clencian y mân ronos ar blât arch Gwenno, a da oedd clywed ymhellach y gweddiau cysurlawn, a'r fendith yn dilyn, o enau'r rheithor. Ar lan y bedd, wrth ben yr arch, safai Elin Morus, mam Gwenno, hen wraig ddeg a thrigain oed, a'i galar tu hwnt i ddagrau. Tystiai'r rhychau ar ei hwyneb iddi weld amser caled. Gadawyd hi yn weddw pan nad oedd Gwenno, ei hunig blentyn, ond deu- ddeg oed. Er hynny, llwyddodd i grafu byw ar ei thyddyn wyth acer, a gofalodd na bu ei phlentyn yn ôl o ddim a weddai i werin ei chyfnod. Bu fyw yn gyfan gwbl i'w merch. Wrth droed y bedd, safai Dafydd Wiliam, gŵr Gwenno, yn ddyn ieuanc deuddeg ar hugain oed, ac yn batrwm o harddwch corff. Gŵr delfrydol, yn ôl a dybiai pawb, i wraig ieuanc a oedd cyn hardded ag yntau. Bu'n wrthrych eiddigedd holl lanciau'r fro pan lwyddodd i ennill calon Gwenno. Heddiw, nid eiddigeddai neb wrtho.