Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jones heb allu edrych arno, cymerodd y llwybr chwith a cherddodd yn araf-doredig i gyfeiriad y drws, fel y cerddodd oddi wrth fedd Gwenno gynt. Safodd pawb yn syn yn y distawrwydd anghysurus. Clywyd ef yn agor y drws i fynd allan. Gollyngwyd hyrddiad o wynt dwyrain oer drwyddo, nes chwythu'r llenni plwsh coch i mewn i'r capel. Clywyd ef yn cau'r drws a cherdded allan i'r storm ac i'r nos. Aeth Catrin Puw allan ar ei ôl, ond ni welai ddim ohono, namyn ôl ei draed mewn tair modfedd o eira, ac yr oeddynt hwythau yn prysur gael eu difodi gan chwipiadau'r lluwch. PEN-Y-BONT (Cartref Mam) GAN DERWYN JONES O'r gweithdy ni ddaw eto grud nac arch, Crefftwaith llawenydd, na saernïaeth parch. Di-feind yw'r seiri ar ddieithraf hynt, Mae rhwd ar offer lle bu gloywder gynt. A llwyr anghofiodd un a'i nerfus ddawn Am oedfa'r hwyr a'r capel hanner llawn. Llaw ddicra'r angau a'u troes o'u diwyd fyd I'w ddigymrodedd ddiogi cyn eu pryd. Darllenwn yn aml am y ddau bapur newydd Rwsiaidd, Pravda ac Izvestia-beth ydyw'r gwahaniaeth rhyngddynt ? Pravda ydyw papur swyddogol y Blaid Gomiwnyddol yn Rwsia, ac Izvestia ydyw papur swyddogol y Llywodraeth yno.