Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOC TOM GAN BOB OWEN /^WAITH anodd yw i mi sgrifennu portread o'r cyfaill uchod, yn ôl fel yr hoffwn, oherwydd y gall y cwlwm cyfeillgarwch a fu rhyngom yn ystod y chwarter canrif diweddar gymylu cryn dipyn arno, a rhwystro imi ymollwng o ddifrif i ddatgan yr hyn a garwn. Beth bynnag am hynny, y mae'n wrthrych teilwng iawn i gael lie yn Lleufbr, oherwydd ei weithgarwch diflino yngwein- yddu cyflenwadau o wybodaeth lyfryddol i fyfyrwyr gwancus Coleg y Brifysgol, ac eraill. Ysgellyn o ddyn main, tenau o ran ei wedd ydyw dipyn yn dal 0 ran corff dau lygad llymion yn ei ben ysgafn yr aeliau o'u cylch gwallt tenau o liw gwinau ar ei gorun a hwnnw er gwaethaf ei oedran heb newid ei liw. I rywun ar yr olwg gyntaf, dyn hollol ddi-serch, dideimlad, yw ac yn enwedig yng ngolwg ambell stiwdant na chafodd gyfle i'w wir adnabod. Ac ni hoffwn i ddatgan yma beth oedd barn dau neu dri o fyfyrwyr adran wyddonol Coleg Bangor amdano wrthyf, na chwaith farn rhai o'i ddisgyblion yn Ysgol Ramadeg Maesteg. Adroddais farnau y rheini wTtho ef, a chwarddodd yn braf. Nid wyf am fynegi chwaith hanes y gerydd-nad anghofiaf mohoni-a roddes i mi yn ei stafell weithio yn y coleg tuag ugain mlynedd yn ôl, na hanes y llythyr crafog, pigog, cas hwnnw a anfonodd imi ryw chwe blynedd yn ôl-llythyr a gedwir, y mae'n ddiamau, rywbryd, ymysg creiriau Llyfrgell Coleg Bangor, neu'r Llyfrgell Genedlaethol, i fod at wasanaeth rhyw fyfyriwr a fydd yn gwneuthur ei draethawd M.A. ar y gwrthrych. Pwy byth a anghofia ei lythyrau ef ? Y mae gennyf gannoedd lawer ohonynt, wedi eu sgrifennu ar bob math o bapur, ugeiniau ohonynt heb ddyddiad arnynt-cam dirfawr yw hynny, yn enwedig pan gofier ddiflased gan y Doctor weled dogfennau, llythyrau a llyfrau heb unrhyw ddyddiad arnynt. Yn eu mysg ceir llythyrau wedi eu sgrifennu ataf ar stripiau culion fel rubanau, neu ymyl stampiau, yn llathenni o hyd. A beth am y llythyr bach hwnnw ar bapur o faint stamp ceiniog a anfonodd imi mewn amlen o faint ffolio mawr llydan, a Brys wedi ei sgrifennu ar yr ochr chwith iddo ? Nid anghofiaf y drafferth a gefais yn dod o hyd i'r llythyr ar yr achlysur hwnnw.