Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRO A'I DDOSBARTH GAN D. TECWYN LLOYD UEL y celyn, y mae pwnc addysg rhai mewn oed yn fythol- wyrdd, ac nid oes odid fyth ball ar ei drafod mewn sgwrs a chynhadledd ac erthygl. Ond ar hyn o bryd, fodd bynnag, fy nheimlad i yw bod perygl i'r drafodaeth ddirywio yn grefft gae- edig y nifer ohonom sy'n ein galw ein hunain yn athrawon dos- barthiadau rhai mewn oed. Tueddir i siarad yn rhwydd a phwys- fawr am bethau fel gwaith ysgrifenedig," visual aids," cyw- aith dosbarth," ac yn y blaen, ac o dipyn i beth, trwy gyfrwng pethau fel hyn, yr ydys yn dueddol i adeiladu math o ragfur technegol sydd, yn y man, yn mynd i neilltuo'r athrawon allanol yn ddosbarth arbennig o bobl; ac ar ôl hynny, 'rwy'n ofni, yn mynd i'n didoli oddi wrth y bobl mewn oed eu hunain. Mewn gair, ofnaf y gall y pla labelau ddod ar ein gwarthaf. Tueddwn hefyd i fagu parch at ystadegau ac adroddiadau adrannol, sydd, fel y frech ieir, nid yn ddolur mawr, ond nid ychwaith yn arwydd iechyd rhy ffyniannus. Gadewch ynteu inni sôn am funud am rai o'r pethau a olygir wrth y dull hwn o addysgu. Y ffaith fawr bwysig yn ei gylch yw mai i rai mewn oed y mae'r addysg hwn (osgoaf, yn anfodlon, y gair oedolion serch ei fod yn derm hwylus iawn, ond y mae'n taro yn erbyn rhai.) Ni ellir, yn fy mhrofiad i, orbwysleisio hyn gelwch y term fel y mynnoch-" pobl wedi tyfu i fyny," adults," pobl ar eu liwt eu hunain "-waeth beth a fo'r disgrifiad, canys ei ystyr bob tro yw eich bod yn delio â dynion a merched sydd â hawl gyflawn a rhydd ganddynt i'ch cywiro a'ch gwrthwynebu hyd yn oed ar fater o farn a gweithred, trwy air a gweithred. Yn wir, y mae ganddynt ryddid hollol i ddweud wrth un athro Dos," ac wrth un arall Tyred," a gorau po fwyaf o hynny a Wnânt-yn ystyriol, wrth gwrs-gan mai dyna un arwydd o ffyniant yn y dull hwn o addysgu. Y maent felly yn rhydd i feddwl a gweithredu fel y mynnont pan fyddont yn dilyn cwrs. Nid lle'r athro o dan unrhyw am- gylchiad yw ceisio gwthio dull o feddwl a gweithredu i lawr eu gyddfau mewn unrhyw fodd, canys dyna'r ffordd rwyddaf o bob un i ddinistrio holl ysbryd a diben y peth. Gyda phlant, y mae