Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y byddai'r disgybl a'r athro yn newid lIe ar unwaith. Dyna sail y berthynas gywir, ac y mae'r gostyngeiddrwydd i gydnabod hyn yn hanfodol i lwyddiant y gyfathrach rhwng unrhyw ddos- barth ac athro. Nid cyfartal yn yr un maes yw athro a disgybl mewn dosbarth allanol, ond cyfartal yn eu cyraeddiadau a'u medrusrwydd, pawb yn ei fater ei hun. Gwrthod cydnabod hyn, ymddwyn yn nawddogol a holl-wybodus fyddai, yn wir, yr hen bechod o wneud cam â gŵr yn ei fater." Hwyrach y caf gyfle i ddychwelyd at rai o'r materion hyn yn nes ymlaen. Er mwyn popeth, fodd bynnag, na thybied neb o ddarllenwyr Lleufer mai rhyw ymgais yw hyn i lunio theori neu gwrs o elfennau addysgu gyda phobl mewn oed. Yr unig theori bwysig i'r holl fater yw medru adnabod pobl. A'r unig ffordd i wneud hynny yw byw gyda hwy, a darllen llenyddiaeth gywir amdanynt. Ond byw yn gyntaf. DYLAN Gan ALGWYN J. HOPKINS A NODD i mi fydd meddwl am Goleg y Brifysgol, Bangor-ac yn enwedig yr Adran Economaidd-heb Dylan. Bu yno'n ddarlithydd am bum mlynedd, a chofir ef fel athro da a hyffor- ddwr diwyd. Ond yn fwy na hynny, yr oedd yn gynghorwr doeth ac yn gyfaill i bob myfyriwr a ddaeth o dan ei adam. Ni chyfyngodd ei waith i furiau'r coleg. Gwasanaethodd yn ystod y rhyfel gydag Uned Ambiwlans y Crynwyr, yn trefnu addysg i'r llocheswyr yn Llundain a Birkenhead­-adroddodd beth o'r hanes yn LLEUFER eleni. Treuliodd beth amser yn athro yng Ngholeg Harlech, a rhoes ei wasanaeth yn hael i hyrwyddo gwaith y WEA yn ardal Gwyrfai. Llwyddiant y gwaith oedd yr unig dâl a ofynnodd am ei ymdrech a'i wasanaeth cyson i bob rhan o'r mudiad gwirfoddol. Yr oedd harddwch ei gymeriad, a swyn ei bersonoliaeth, yn fwy nodedig hyd yn oed na disgleirdeb ei allu- oedd meddyliol.