Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS ERBYN y byddwch yn darllen y nodiadau hyn, bydd bron yn amser cychwyn y dosbarthiadau am y gaeaf. Hyderwn fod eich trefniadau wedi eu cwpláu yn gynnar eich bod, mewn gwirionedd, wedi eu gwneud ddiwedd y tymor o'r blaen. Yr oedd y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau a'r canghennau wedi gwneud hyn, ac felly wedi sicrhau eu hathrawon mewn pryd. Ond, megis yr oedd rhai morynion ffôl yn ogystal â rhai call, fe geir ambell ddosbarth WEA wedi anghofio trefnu mewn pryd. Os nad ydych wedi gwneud eich trefniadau i gychwyn eich dosbarth, yna ewch ati ar unwaith, a phob hwyl ichwi. Y mae rhai o'r Canghennau wedi trefnu eu program at y gaeaf. Cefais y fraint o fod mewn rhai o'u cyfarfodydd. Bûm yng nghyfarfod Cangen Uwch-Conwy pan oeddynt yn trefnu ar gyfer y gaeaf, ac er eu bod oll yn weithgar gydag Eisteddfod Gened- laethol 1951 gwnaethant amser i ddyfod i gyfarfod y Gangen, a threfnu i ail-gychwyn holl ddosbarthiadau'r cylch at y gaeaf, er prysurdeb yr Eisteddfod. Cangen Llyn mewn hwyliau da, a'r Llywydd, Caradog Evans, yno wedi gwaeledd maith, ac yn edrych yn dda. Y Gangen yn trefnu ei holl ddosbarthiadau, a hefyd yn trefnu cwrs o Extension Lectures ar Hanes, i'w cynnal ym Mhwllheli. Yn trefnu hefyd amryw Ysgolion Haf Dibreswyl trwy'r ardal. O'r un ar bymtheg ohonynt a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru eleni, bu un ar ddeg yn Llyn. Carem weld llawer o ganolfannau eraill drwy'r Gogledd yn manteisio ar y cyfleusterau hyn i gael wythnos o ysgol yn eu pentrefi yn ystod yr haf. Cangen sy'n ymdrechgar iawn y dyddiau hyn yw Cangen Ystumaner. Bu unwaith yr un fwyaf blodeuog yn y Gogledd, a chredwn y daw felly eto. Y mae'r swyddogion yn ymroi ati o ddifrif, — pob hwyl iddynt. Datblygir ein gwaith mewn llawer dull a llawer modd. Mewn rhai lleoedd cynhelir Ysgolion Undydd, neu ddarlithoedd arbennig,. neu Ysgolion Haf, ond ym Mynydd Llandygái fe gynhaliwyd Eis- teddfod y WEA, a buont arni am ddau ddiwrnod hyd hanner nos Nos Sadwrn. Cafwyd hwyl dda iawn yno.