Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'R SWYDDfA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY pYNHALIWYD ein Cyfarfod Blynyddol eleni yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ar Orffennaf 22. Cafwyd anerchiad gwych gan Drefnydd Cyffredinol y WEA, William Gregory, a fagwyd yn Llansawel, neu Briton Ferry. Cafwyd trafodaethau bywiog ar y penderfyniadau a ddaeth oddi wrth y Canghennau. Dengys ein Hadroddiad Blynyddol fod 309 o ddosbarthiadau ffurfiol wedi eu cynnal yn ystod y flwyddyn-72 Tiwtorial, 102 Dosbarth Sesiwn, 29 Dosbarth Blwyddyn, 75 Dosbarth Term, a 32 o ddosbarthiadau llai. Yr oedd 108 o'r rhain yn Sir For- gannwg, 62 yn Sir Fynwy a 50 yn Sir Gaerfyrddin. Gweithwyr â'u llaw oedd y dosbarth lluosocaf ymysg yr efrydwyr, ond heblaw y rhain yr oedd hefyd glarcod, trafaelwyr, goruchwylwyr, gweith- wyr mewn siopau, athrawon, gweision suful, merched yn cadw ty neu'n nyrsio. a llawer yn chwaneg. Bu 428 dosbarth yn astudio pynciau'r dydd a phynciau cyffelyb, 678 dosbarth grefydd, athroniaeth a seicoleg, 233 hanes (gan gynnwys hanes Cymru a hanes lleol), 120 lên ac iaith Cymru, 284 Lên a'r Ddrama, Cel- fyddyd a Phensaerniaeth, a 45 Fywydeg a Ffusioleg. Dengys Adroddiadau ein Canghennau eu bod wedi derbyn llawer o gymorth yn eu gwaith, nid yn unig gan ein Trefnydd Amser Llawn, Mansel Grenfell, ond hefyd gan Athrawon Dos- barthiadau o dan golegau Caerdydd ac Abertawe, a chydweith- rediad calonnog staff y Brifysgol. Yr ydym ar delerau hapus iawn hefyd â'r Awdurdodau Addysg Lleol. Trwy gyfrwng y Pwyllgorau Ymgynghorol ar Addysg Pobl mewn Oed, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Pwyllgorau Addysg a'r Cyrff Gwirfoddol (y WEA, etc.) cawn drafod y problemau sydd yn gyffredin inni, a dyfod i ddeall ein gilydd yn well. Diolch- wn yn galonnog i'r Awdurdodau yn Siroedd Mynwy, Caerfyrddin, Penfro ac Aberteifi, ac yng Nghaerdydd, Abertawe a Merthyr, am eu cydweithrediad ac am eu cymorth mewn arian a daliwn i obeithio y bydd Awdurdod Sir Forgannwg, y mwyaf ohonynt oll, yn estyn inni ddeheulaw cyfeiilgarwch ac ewyllys da cyn bo hir eto. Cynhaliwyd Ysgolion Haf Dibreswyl o dan Goleg Harlech eleni yn Rhydaman, Hendy (Pontardulais), Port Talbot, Castell