Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Geiriadur Cymraeg-Saesneg a Saesneg-Cymraeg gan T. Gwynn Jones ac Arthur ap Gwynn. Hughes a'i Fab. 8/6. A NODD meddwl am T. Gwynn Jones yn eiriadurwr, ond dyma eiriadur o'i waith, wedi ei orffen gan ei fab Arthur. Gwir fod ganddo ddiddordeb erioed mewn geiriau, fel y gweddai i artist mor gywrain ag ef, ac na allasai gyflawni ei gampweithiau heb fod ynddo'r ddawn i flasu ac i sawru geiriau a'u gwahanol liwiau ac ystyron. A chan gofio, oni chyhoeddodd ef flynyddoedd yn ôl gopi o hen eirfa'r beirdd o lawysgrifau Peniarth-rhestr hynod ddefnyddiol ? Beth felly yw'r geiriadur newydd hwn-geiriadur barddol neu ysgolheigaidd ? Nage, rhoddir terfynau pendant i'r geiriadur hwn trwy esbonio yn y rhagair ac yn y rhagymadrodd mai ar gyfer plant ysgol y bwriadwyd ef. Purion­yr oedd eisiau un yn druenus, yn enwedig gan fod geiriadur Bodfan mor brin. A hyd y gwelaf i bydd y geiriadur newydd yn haeddu ei Ie i'r pwrpas hwnnw. Mae'r adran gyntaf yn ddigon llawn i ddisgybl fedru cael gafael ar ystyr y rhan fwyaf o'r geiriau y bydd yn debyg o ddod ar eu traws yn ei ddarllen. Mae'r diffiniadau yn gryno iawn, yn orgryno yn aml. Carwn petai mwy o help gyda'r berfau, yn enwedig lIe y bo'r berfenw yn wahanol i'r bôn berfol, neu pan fo gan y berfenw derfyniad arbennig. Er enghraifft, dylid rhoi o leiaf af, euthum, aeth, el-, gyda chroesgyfeiriad at myned ac ehedaf yn ogystal ag ehedeg, er mwyn dangos yn glir beth yw'r bôn berfol yr ychwanegir terfyniadau ato. Colled arall yw'r prinder idiomau neu briod-ddulliau. Dan y gair torri, er enghraifft, ni cheir torri dadl na torri'r garw ni welir achub y blaen dan nac achub na blaen. Nis cynhwyswyd rhag chwyddo'r gost, mae'n debyg. Gwelir anghysondeb hefyd yn y geiriau a ddewiswyd. Ceir hendref ond ni cheir hafod buarth ond nid clos taw (ffurf y De am that ") ond nid mai. Brychau yw'r rhain, a'u tebyg, y gellir yn hawdd eu gwella eto. Mae deuoliaeth ddwbl yn y geiriadur hwn. Oherwydd gwael- edd a marwolaeth T. Gwynn Jones bu raid i'w fab ymgymryd â llawer o'r ail hanner-y Saesneg-Cymraeg. Penderfynwyd helaethu'r adran hon a chynnwys ychwaneg o eiriau er mwyn y bobl sydd am ddysgu'r Gymraeg-ac y mae rhif y rheini'n fwy nag y tybir yn gyffredinol, yn enwedig ymhlith y Cymry di-