Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Deg o Storïau, gan Amy Parry-Williams. Y Clwb Llyfrau Cymraeg. Gwasg Llandysul. 2/6 i aelodau, 4/- i eraill. Ni chofiaf imi erioed weld ar wynebddalen llyfr Cymraeg y sylw hwnnw a welir mor ami ar lyfrau Saesneg, sef nad oes ber- thynas o gwbl rhwng cymeriadau'r llyfr ac unrhyw berson dynol arbennig. Dyna, 0 leiaf, un haeriad Phariseaidd nad ydym yn euog ohono. Yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru yn ein storiau, ac er mai bro ddieithr i mi yw Dyffryn Gwendraeth nid dieithr imi ei phobl gwelais hwy yn Nyffrynnoedd Ogwen, Dyfrdwy, Hafren, ac yn wir yn Nyffryn Tafwys hefyd. Efallai ei fod yn llythrennol wir na throswyd Owen Williams, Nymbar 4 Waun Terrace, yn ei grynswth i'n storiau dan yr enw William Owen, ond y mae bron yn llythrennol wir iddo fo a dau neu dri eraill uno i wneud un cymeriad arbennig-a hynny yn aml heb yn wybod hyd yn oed i'r awdur. Ymhle arall y disgwylir i storiwr gael defnydd ? Eithr cam dybryd ag awduron yw gor- bwysleisio eu hymlyniad wrth fro. Nid ysgrifennu am Ddyffryn Nantlle y mae Kate Roberts ond am bobl, ac y mae yr un peth yn wir am Rowland Hughes a D. J. Williams. Dyn ac nid Sgotyn yw Macbeth, ac oherwydd ei allu i greu dyn y mae Shakespeare yn fawr. Onid dyna fawredd pob llenor ? Gorwedd yr esgyrn sychion o'n cwmpas ymhobman. Y mae'r rhelyw ohonom yn ein diddori ein hunain yn gosod yr esgyrn ar ffurf dyn. Cawn gystal hwyl ambell dro fel ag i dderbyn clod y beirniaid, ond fel yr edwyn yr adar y bwgan brain cyn trannoeth ei lunio, felly yr adwaenir ein llafur ninnau-swp o esgyrn ar ffurf dyn. Ni wrendy ddim-dim a ddwed." I ychydig yn unig, ysywaeth, y rhoddwyd y ddawn i alw'r anadl einioes o'r pedwar gwynt a'i anadlu i'r esgyrn sychion hyn. Hwnnw yw y llenor. Crefft arbennig yw gosod yr esgyrn sychion wrth ei gilydd, ffrwyth disgyblaeth ac ymroddiad ynghyda dawn neilltuol. Nid crefft na dawn yw yr anadl einioes, ond cariad angerddol át gyd-ddyn. Cofiaf yma mai i adolygu llyfr Amy Parry-Williams y rhoddwyd imi dudalen neu ddau o LLEUFER. Gobeithiaf o leiaf imi roddi testun trafodaeth i ddosbarth. Ac onid wyf eisoes wedi adolygu'r llyfr ? Ceir ynddo ddeg stori, ac nid oes amheuaeth ynghylch cariad yr awdur at ei chyd- ddyn, yn ei nerth a'i wendid. Y mae'r cymeriadau yn fyw-fel y dywedais eisoes mi adwaen lawer ohonynt-ac yr wyf yn falch