Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o'u cael fel hyn yn gwmni hyfryd i ymdroi yn eu plith. Deg o storïau-a phob un yn stori yn ystyr hen ffasiwn y gair, a phob stori yn llunio'r cymeriad yn ei gwead ei hun yn hytrach na'i ddadansoddi trwy gynnal cwest seicolegol ar ei bechodau. Tenau yw y defnydd mewn llawer o'r storïau ond y mae pob un yn argyhoeddi-a hynny ar waethaf crefft ansicr ac anghyfar- tal mewn amryw ohonynt. Teimlwn droeon fod yr awdur yn cael cryn drafferth i gychwyn gosod yr esgyrn sychion wrth ei gilydd, ac yna'n sydyn ar ôl paragraff neu ddau y mae fel petai'r patrwm yn clirio a'r gwaith bellach yn fwy rhwydd. Enghraifft o hyn yw dau baragraff cyntaf y drydedd stori, Mater o Fusnes bron na theimlwn (neu gydymdeimlwn) â'r awdur yn ymdrechu'n galed i lunio'r brawddegau, ac yna'r car fel petai'n llithro'n esmwyth i'w gêr a minnau'n anghofio popeth am fecanics y grefft yr oeddem mor ymwybodol ohono cyn hynny. Cawn bellach fwynhau y daith heb boeni am y car. Ond astudiwch yr awdur ar ei gorau-" Rhedodd y ferch fach ffwl pelt tua thre. Gan glatran dros y fflagiau gyda thalcen y ty, stopiodd bang yn erbyn drws y cefn." A'r rhagymadrodd godidog i stori Y Gwely Winwns. Diolchaf o galon i Amy Parry-Williams am roddi imi y fath fwynhad ac ail gyflwyno imi ar newydd wedd gymaint o hen gyfeillion. Tybed, a ddylai awdur, wedi grymuso o'r grefft, ail ysgrifennu'r storïau a greodd ddeng mlynedd cyn hynny ? Testun dadl arall. i. BOWEN GRIFFITH Teulu'r Cwpwrdd Cornel, gan Alwyn Thomas, y darluniau a'r Llong Fach gan H. Douglas Williams. Gwasg y Brython. 7 /6. Dyma lyfr i blant bychain sy'n haeddu croeso mawr gan rieni plant Cymraeg. Ei gynnwys yw cyfres o storïau, a ddar- lledwyd yn wreiddiol gan y BBC, am y teganau a gedwir yn y cwpwrdd cornel. Gan fod yr un cymeriadau yn ymddangos ymhob stori, troir hwy'n gymdeithas fyw a fydd yn gafael yn nychymyg a diddordeb plant. Rhwng y storïau ceir rhigymau am y teganau, a cheir hefyd chwech o ddarluniau lliw a nifer mawr o ddarluniau mewn du a gwyn, yn ogystal â chyfres o stripiau yn adrodd hanes cyffrous y Llong Fach mewn gair a darlun. Cymeradwyaf y llyfr yn galonnog i rieni a gobeithiaf y bydd ei werthiant yn gyfryw ag i galohogi'r awduron i gynhyrchu rhagor o'i* ún math. A. o. H. JARMAN