Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Griffith Jones Llanddowror Pioneer of Adult Education, gan Thomas Kelly. Gwasg y Brifysgol. 3/6. Cyfarwyddwr Efrydiau Allanol Prifysgol Lerpwl yw awdur y traethawd hwn, ac yn ei Ragymadrodd dywaid mai'r gyntaf o gyfres ar arweinwyr mudiad addysg y bobl mewn oed yng Nghymru a Lloegr y bwriedir i hon fod. Dywaid ymhellach nad yw'n honni bod yn hanes cyflawn ei wrthrych, ond yn sicr bydd cyfres o draethodau tebyg yn hynod dderbyniol, oherwydd prin iawn yw astudiaethau o unrhyw gwr o'r maes diddorol hwn. Nid yw'n debyg y caiff y darllenydd o Gymro fawr ddim gwybodaeth ychwanegol o ddarllen y traethawd hwn yr oedd y ffeithiau eisoes ar gael mewn gwahanol gyfrolau a chylchgronau,. ond hwylus iawn fydd eu cael wedi eu casglu ynghyd fel hynt Dylai'r nodiadau a'r sylwadau llyfryddol fod o ddefnydd mawr ì athrawon ac aelodau ein dosbarthiadau wrth drafod y cyfnod hwn yn Hanes Cymru. Cyfyd ambell bwynt diddorol yng nghorff y traethawd, ond bodlonaf ar nodi rhyw un neu ddau. Yr ydym wedi arfer â chlywed canmol Gruffydd Jones am Gymreictod ei ysgolion, a rhydd Mr. Kelly sylw i'r agwedd hon o'i waith. Pwysleisia hefyd dlodi Cymru yn y ddeunawfed ganrif, ac awgryma fod poblogaeth y wlad yn fwy nag y gallai amaethyddiaeth y cyfnod ei bwydo. Dyna pam yr oedd cymaint o gardodwyr i'w gweled ar hyd a lled y wlad, a dyna pam y gallai Gruffydd Jones ddenu disgyblion i'w ysgolion trwy gynnig bwyd i'r corff yn ogystal â bwyd i'r meddwl. Tybed nad oes awgrym yma y talai i'n dos- barthiadau gynnal eu sosial pen tymor ar ddechrau'r gaeaf ? Bid a fo am hynny, y mae un wers hynod o bwysig inni i'w dysgu gan Gruffydd Jones pwysleisia ef byth a hefyd nad oedd pregethu ar ei ben ei hun yn ddigon i ateb ei bwTpas — it must be accompanied by positive teaching." Yn ein dosbarthiadau ni; waeth pa mor wych y bo'r darlithiau, ni welwn fawr o'u hôl os na cheir ymdrech wirioneddol gan yr aelodau trwy ddarllen ac; ysgrifennu cyson drwy'r tymor. FRANK PRIOE, JpîíES