Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PAN OEDDWN FACHGEN GAN CYNAN TREF braf neilltuol i fod yn fachgen ynddi oedd tref Pwllheli tua deng mlynedd cyntaf y ganrif hon, a hynny am amryw resymau. Hi yw pen tref Llyn ac Eifionnydd, ac yn y blynyddoedd hynny o leiaf yr oedd ei bywyd trefol a chymdeithasol yn iachus o Gymraeg. Dylifai ffermwyr y fro a'u teuluoedd yn gyson i'r dref bod Dydd Mercher i'r farchnad-heb sôn am ddyddiau mawr miri'r ffeiriau, pan fyddai'r strydoedd yn Jlawn o wartheg neu geffylau. A phan oeddwn i'n fachgen, Cymraeg oedd iaith y farchnad, iaith y ffair, iaith y bywyd cymdeithasol, a iaith arferol pob siop yn y dref-ac eithrio un, a elwid gennym ni'r plant yn "Siop Saesnes," gyda'i chyflaith cartref o fendigedig goffadwr- iaeth ar y ffordd i'r ysgol. Enwau Cymraeg da oedd uwch drysau'r siopau :-Siop Goch, Siop Glyn, Siop yr Eryr, Siop Crugan, Siop Pwlldefaid, Siop Caer Rhydderch. Ac yn y siopau hyn­cyn dyfod y combines Seisnig mawr-fe gaech fywyd cymdeithasol hamddenol a chymdogol a nodweddiadol Gymreig. Er enghraifft, wedi i Mrs. Williams a'r ddwy Miss Williams o Sarn Mellteyrn orffen prynu eu holl nwyddau yn y siop ddillad, fe ymddangosai tray yn sydyn ar y cownter o rywle gyda photiaid o de a bara menyn yn rhad ac am ddim, a thra eisteddent hwythau ar eu cadeiriau uchel i'w fwynhau, deuai'r siopwr ei hun atynt i sgwrsio ar bob pwnc-o bris yr wyau yr wythnos honno hyd at bregethwyr y Sasiwn yr wythnos nesaf. Gallech fentro y byddai Mr. Williams yntau wedi cyrraedd yno o rywle cyn y diwedd­i ymuno yn y drafodaeth, ac yn y te wrth gwrs. Er nad enw Cymraeg oedd ar siop fy nghartref i, Liverpool House," Cymraeg fyddai'r iaith fusnes yno hefyd bob amser, ac eithrio yn nhymor byr yr ymwelwyr haf, ie, a Chymraeg da iawn hefyd â thipyn o flas Pen Llyn arno. A dyna chwi'n gwybod yn awr pam y mae'n gas gennyf glywed pobl yn ateb Olreit neu Very Well," mor fynych mewn drama neu stori Gymraeg. Clywed yr ydwyf o hyd fy Nain yn ateb Purion" i geisiadau ei chwsmeriaid. Gwell gair o lawer.