Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DE-DDWYRAIN ASIA .GAN T. HUGHES GRIFFITHS SAIF y rhanbarth bwysig hon i'r de o'r llinell sy'n gwahanu'r byd Comiwnyddol oddi wrth y Gorllewin. Fel y gwledydd eraill ar hyd y llinell derfyn rhwng Gorllewin a Dwyrain, o Vladi- vostok i Stettin, trefedigaethau a oedd yn Ne-Ddwyrain Asia hyd at y Rhyfel Mawr diweddar. Ond heddiw y mae'r holl wledydd hyn ym merw chwyldroad sydd eisoes wedi gwedd- newid bywyd gwleidyddol y brodorion. Ceisiwn olrhain y proses hwn orau y medrwn. Y mae i Dde-Ddwyrain Asia ei hanes diddorol ddigon. Yn y cyfnod Cristionogol hyd at ddechrau Oes y Darganfyddiadau a arweiniodd i Imperialaeth y cyfnod modern, bywyd llonydd, digyffro a chyntefig yn economaidd oedd i'r brodorion. Yr oedd dyl anwad India hyd at y ddeuddegfed ganrif yn cyrraedd i Indo- China yn y gogledd-ddwyrain, Ue y gwelir ei hôl hyd heddiw yn yr argraffiadau Sanscrit ac yn ffurfiau pensaerniol Annam. Ond China oedd canolfan bywyd y Môr Tawel, a honnai hi fod yr holl wled- ydd yn dibynnu arni ac yn talu gwrogaeth yn ogystal. Y mae India a China ynghanol y Chwyldro presennol yn hawlio eu 11e priodol hanesyddol ym mywyd a thynged gwledydd y Dwyrain Pell, fel yn Ne-Ddwyrain Asia. Ond o dan wrthdrawiad Imperialaeth Ewrop a'r Unol Daleith- iau, fe ysgytiwyd De-Ddwyrain Asia o'i drymgwsg cyntefig. Nid oes angen olrhain twf Imperialaeth yn y rhanbarth, ond ceisiwn weld y cyfnewid a ddeilliodd oddi wrtho. Hyd at y Rhyfel Mawr diwaethaf, yr oedd holl wledydd y rhan hon o Asia yn drefedigaethol-ac eithrio Siam, a barhaodd yn annibynnol hyd heddiw. Gwahanol iawn, yn wleidyddol, oedd ffurfiau llywodraeth- ol y trefedigaethau hyn, fel patrwm aml-liwiog. Ar y naill law. yr oedd Siam yn mwynhau rhyddid gwleidyddol, ac ar y llaw arall yr oedd llywodraeth Gogledd Borneo yn ddigon cyntefig a di-lun. Rhwng y ddau eithafbwynt yr oedd ffurfiau tra gwahanol ar y gweddill. Yr oedd y Philippines dan yr Unol Daleithiau bron yn annibynnol, fel Bwrma o dan Brydain Fawr. Trefedigaetho] hollol oedd llywodraeth Holand yn India'r Dwyrain. Yr oedd gwladwriaethau bychain Malaia o fewn ffederasiwn, ac Indis yn ymerodraeth arbennig o dan Brydain. Yr oedd Indo-China